10/09/2026
Mae archwiliad ynni wedi nodi lle y gall fferm laeth yn Sir Benfro wneud arbedion i gostau trydan gwerth miloedd o bunnoedd y flwyddyn, ac mae’r busnes eisoes yn gweithredu ar y cyngor hynny.
Mae galw sylweddol am drydan ar ffermydd llaeth fel Tierson Farm ond mae llawer yn defnyddio mwy nag sydd angen iddynt ac yn talu costau tariff uchel heb fod angen.
Cydnabu Derrick a Delana Davies, sy’n ffermio’r daliad ger Tiers Cross y byddai archwiliad ynni’n gam cyntaf da i ganfod sut y gall eu system fod yn fwy effeithlon o ran ynni.
Yr ysgogiad a’u cymhellodd i gymryd y naid honno oedd mynediad at gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio.
“Roedd argaeledd y cyllid yn ddefnyddiol iawn i ni wneud y penderfyniad i barhau gyda’r archwiliad”, meddai Derrick.
Sicrhaodd y cyllid hwnnw ymweliad gan Roger Stones, archwilydd NFU Energy a gwblhaodd asesiad cynhwysfawr o’r system gyfan ar Tierson Farm.
Cynhyrchodd Roger adroddiad pwrpasol a oedd yn cynnig datrysiadau ar sut y gallai’r fferm arbed ynni.
Bu iddo nodi arbedion gwerth dros £4,000 a dros 16,000 kWh o ddefnydd ynni y gellir ei osgoi ar fferm Tierson.
Roedd cyfleoedd yn amrywio o newidiadau digost a newidiadau isel eu cost i fuddsoddiad wedi’i dargedu mewn systemau oeri, gwresogi a systemau mecanyddol, gydag ad-daliad ymarferol posibl.
Fe wnaeth archwiliad Roger hefyd awgrymu ffyrdd y gall y teulu Davies gynyddu gwerth system gynhyrchu ynni’r haul y fferm, gwella gwaith monitro a rheolaeth a lleihau faint o drydan a oedd yn cael ei fewnforio o’r grid.
Un o’r enillion cyflymaf iddynt fyddai gosod gyriant amrywio cyflymder i’r pympiau gwactod yn y parlwr godro.
Pwmp gwactod yw un o’r defnyddiwr ynni mwyaf ar fferm laeth. Byddai gosod pwmp amrywio cyflymder yn sicrhau llif o laeth cynnes arafach a mwy cyson drwy system
cyn-oeri, gan ei amlygu i ddŵr oer am gyfnod hirach gan wneud y mwyaf o’r system gyfnewid gwres.
Mae hyn yn fwy effeithiol na phroses stopio a chychwyn ac mae’n lleihau’r pwysau ar y system oeri.
Fe wnaeth tîm NFU Energy hefyd gynnig cyngor ar sut all y busnes gael y fargen orau o’i gytundeb ynni, ac, o ganlyniad, maent eisoes wedi newid eu darparwr ynni.
Dywed Derrick: “Roedd cael unigolyn proffesiynol gwybodus ac annibynnol i edrych ar anghenion penodol y fferm yn ddefnyddiol iawn”.
“Roedd yn ddefnyddiol iawn cael asesiad annibynnol ac i ddeall sut i reoli costau ynni’n well wrth symud ymlaen”, meddai.
Anogodd eraill i fanteisio ar y budd drwy edrych ar y cymorth sydd ar gael gan Cyswllt Ffermio.
“Rhoddodd yr archwiliad well dealltwriaeth i ni o le’r oedd ynni’n cael ei ddefnyddio ar draws y fferm”, meddai.
Mae bod yn fwy effeithlon o ran ynni yn mynd yn law yn llaw â lleihau carbon. Mae archwiliadau’n cael eu defnyddio fwyfwy gan broseswyr llaeth i helpu i gyflawni targedau sero-net ar draws eu cadwyni cyflenwi.
Yn ogystal â sicrhau cyllid ar gyfer archwiliad ynni, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal cymorthfeydd un i un yn nhymor yr hydref i alluogi ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i gael cyngor arbenigol ar effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.
Mae cymorth hefyd ar gael ar y pynciau hyn drwy raglen e-ddysgu a gwasanaeth mentora Cyswllt Ffermio.
Yn ogystal ag archwilydd ynni drwy Cyswllt Ffermio, gall NFU Energy gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar ynni adnewyddadwy.
Mae NFU Energy yn dadansoddi’r wybodaeth a’r data a ddarperir gan y ffermwr ac yn cynhyrchu adroddiad yn egluro pa faint o systemau ynni adnewyddadwy fyddai fwyaf addas, gan restru’r manteision a’r anfanteision a’r risgiau yn ogystal â’r buddion ariannol megis elw ar fuddsoddiad, incwm posibl ac arbedion.
Mae rhaglen Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnwys mynediad at asesiad i fesur ôl-troed carbon gan NFU Energy i gyfrifo allyriadau’r fferm er mwyn ei pharatoi ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau’r dyfodol.