29 Ebrill 2026
Nid oes angen llawer iawn o dir i redeg fferm broffidiol, fel y mae un busnes garddwriaeth llwyddiannus yn ei brofi ar 12 erw yn unig yng nghefn gwlad Sir Benfro.
Mae Lauren Simpson a Phil Moore yn tyfu cnydau tymhorol ar gyfer marchnadoedd arbenigol, gan ddangos bod ffermio ar raddfa fach, gan ddefnyddio llawer llai o dir na'r erwau nodweddiadol ar fferm deuluol, yn bosibl os yw ffermwyr yn greadigol gyda'r cnydau maen nhw'n eu tyfu.
Roedd ganddynt yrfaoedd fel gwneuthurwyr rhaglenni dogfen yn Llundain cyn symud yn 2017 i ffermio ar fferm Parc y Dderwen, Llangolman.
Nid oedd gan yr un o’r ddau gefndir mewn amaethyddiaeth ond yn yr wyth mlynedd ers symud maent wedi sefydlu fferm oddi ar y grid llwyddiannus a busnes bwyd cysylltiedig.
Ysgogwyd y newid cyfeiriad gan ddiddordeb brwd yn y materion sy'n croestorri o amgylch cynhyrchu bwyd - defnydd tir, newid hinsawdd, maeth, hawliau gweithwyr a mwy.
Mae Lauren a Phil yn arbenigo mewn cynhyrchu bresych picl a kimchi amrwd eplesedig naturiol, sydd wedi'u gwneud gan ddefnyddio cynhwysion sy'n cael eu tyfu'n bennaf yn eu gardd farchnad.
Mae cnydau hadau hefyd yn cael eu tyfu ar gyfer Real Seeds a Hwb Hadau Cymru a gwerthir pleth garlleg yn gyfanwerthol.
Roedden nhw'n gwybod bod mwy y gallan nhw ei wneud i wneud y mwyaf o botensial eu tir serch hynny. Yn 2025, gyda chymorth gan Cyswllt Ffermio o dan y rhaglen 'Ein Ffermydd’, fe gychwynnon nhw ar arbrawf i ymchwilio i sut y gallai cnydau coginio, meddyginiaethol a ffrwythau meddal lluosflwydd gyflawni'r uchelgais honno.
Er mai bresych picl a kimchi yw prif fenter Lauren a Phil, roedd treialu cnydau eraill ac archwilio'r marchnadoedd ar eu cyfer yn cynnig cyfleoedd i gynyddu proffidioldeb, arbrawf a oruchwyliwyd gan Hannah Norman o Cyswllt Ffermio.
Neilltuwyd llain 14m x 14m ar gyfer yr arbrawf; gorchuddiwyd hwn â haen artiffisial am flwyddyn i baratoi'r tir ar gyfer plannu a phan gafodd ei dynnu, gwasgarwyd tail ar ben y pridd, a thriniwyd y tir gydag oged bŵer.
Er mwyn darparu draeniad da ar gyfer y gwelyau a glustnodwyd ar gyfer tyfu perlysiau tebyg i fôr y canoldir a lafant, ychwanegwyd tywod at y pridd.
Gosodwyd pilen atal chwyn o amgylch perimedr y llain ac mewn gwelyau penodol, i atal glaswelltau, blodyn ymenyn ymlusgol a chwyn eraill rhag lledaenu.
Chwyn oedd yr her fwyaf i Lauren a Phil. Fe ddefnyddion nhw orchudd daear o flodau gwyllt oedd yn tyfu'n isel fel rhan o'u system reoli, gan gynnwys mefus alpaidd, rhwyddlwyn ac eidral.
Roedd angen chwynnu â llaw yn 2025 a 2026 ond unwaith y bydd y planhigion a'r gorchudd daear wedi ymsefydlu, mae'n debyg y bydd rheolaeth yn llawer haws, er efallai na fydd byth yn cael ei datrys yn llwyr.
“Rydym wedi derbyn y gallai fod yn rhaid i ni dderbyn safon newydd o ran beth sy’n ddigonol. Efallai na fyddwn byth yn llwyddo i reoli’r chwyn yn llwyr, ond mae’r gorchudd daear yn bendant yn helpu,’’ meddai Lauren.
Cafodd llwyni ffrwythau meddal, gan gynnwys cyrens duon, llus a chyrens cochion, eu cynnwys yn y cynllun plannu, ac roeddent wedi sefydlu’n dda gyda rhywfaint o ffrwythau'n cael eu cynhyrchu yn y tymor cychwynnol.
Gyda'r llwyni hynny bellach yn eu hail flwyddyn o dwf, disgwylir cynhaeaf uwch y tymor hwn.
Tyfodd y perlysiau coginio a meddyginiaethol yn dda hefyd – gyda’r bergamot, camil, cycyllog a lafant yn tyfu’n arbennig o dda.
Blodau oedd yr un math o gnwd nad oedd yn ffynnu - perfformiodd yr aquilega, bysedd y blaidd, penigau barfog, a'r milddail yn well na chwyn, o bosibl oherwydd eu bod wedi'u plannu'n hwyrach na'r amser delfrydol felly bydd plannu'n cael ei wneud yn gynharach yn 2026.
Roedd y cymorth gan Cyswllt Ffermio i gynnal yr arbrawf yn allweddol, gan roi'r amser a'r adnoddau i Lauren a Phil arbrofi gyda gwahanol blanhigion.
“Heb y cymorth hynny, ni fyddem wedi gallu archwilio’r potensial ar gyfer planhigion lluosflwydd gan fod arbrofi gyda gwahanol gnydau yn broses hir,’’ cyfaddefodd Lauren.
“Gallai gymryd dwy neu dair blynedd cyn y bydd y rhain yn broffidiol ond, yn y cyfamser, rydym wedi gallu gweld beth sy'n gweithio, a beth sydd ddim.''
Yr hyn maen nhw wedi'i sefydlu yw bod cnydau ffrwythau a pherlysiau lluosflwydd yn wir yn opsiwn hyfyw ar gyfer mentrau garddwriaeth presennol a newydd.
Fe wnaethant hefyd ddarganfod bod paratoi'r ddaear a rheoli chwyn yn allweddol i sefydlu'n llwyddiannus a, gyda'r rheolaeth gywir, gall blodau gwyllt fod yn ffurf dda o reoli chwyn mewn gwelyau lluosflwydd, gan gynyddu bioamrywiaeth hefyd.
Cafodd Lauren a Phil fentora drwy Cyswllt Ffermio gan Tom Clare, arbenigwr amaeth-goedwigaeth a’u cefnogodd i integreiddio llwyni, gwrychoedd a blodau gwyllt brodorol ar gyfer rheoli plâu, gwella amrywiaeth planhigion gwelyau cyrs, a mireinio rheolaeth arbrofion lluosflwydd i gefnogi iechyd y pridd.
Roedd rhai o'r cnydau a dyfwyd yn broffidiol yn y tymor cyntaf - gwerthwyd y cnwd cyfan o gycyllog i'r cwmni cynhyrchion llysieuol Avicena, sy'n cynhyrchu olewau hanfodol, cynhyrchion harddwch ac eli.
Mae gan Lauren a Phil hefyd wneuthurwr jam a siytni i brynu ffrwythau meddal yn y dyfodol.
Maen nhw hefyd yn defnyddio rhai o'r perlysiau yn eu busnes bwyd eplesedig eu hunain, a'r cnydau blodau ar gyfer cynhyrchu hadau yn cael eu gwerthu drwy Hwb Hadau Cymru.
Mae'r erwau ar fferm Parc y Dderwen yn ficro o'i gymharu â'r fferm gyffredin, a gall y gwaith fod yn llafurddwys, ond nid yw Lauren a Phil yn edifarhau eu bod wedi camu i ffwrdd o'u hen fywyd.
“Roedd yn foment o newid, ond a dweud y gwir alla i ddim dychmygu mynd yn ôl i’n hen fywyd nawr,” meddai Lauren.
Ar hyn o bryd, mae Cyswllt Ffermio yn recriwtio ar gyfer y garfan nesaf o ffermydd arddangos i ymuno â’r rhwydwaith Ein Ffermydd. Rhaid i chi fynegi diddordeb erbyn 10am, ddydd Llun 18 Mai 2026.
Gall ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio gael mynediad at hyd at 15 awr o fentora wedi'u hariannu'n llawn gydag unrhyw un o'r mentoriaid. Mae manylion pellach ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.