BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rheoli ac Atal Mastitis Clinigol ac Is-glinigol - Adroddiad Terfynol

Cefndir y Grŵp  

Mae'r ffermwyr yn y grŵp yn rhan o ddau grŵp trafod craidd Cyswllt Ffermio, un ohonynt wedi'i leoli o amgylch y Trallwng ac un yn y De-ddwyrain. Ymunodd un ffermwr o'r De-orllewin. Nod y prosiect oedd defnyddio data i ddarganfod patrwm mastitis ar y ffermydd hyn, ac yna darparu cyngor arbenigol (gan y milfeddyg James Breen) ar sut i leihau nifer yr achosion o fastitis clinigol ac is-glinigol. Anna Bowen o Ganolfan Anderson oedd yn gyfrifol am gydlynu'r prosiect hwn.  

Beth yw offeryn patrwm mastitis?

Datblygwyd yr offeryn patrwm mastitis gan ǪMMS ac AHDB, ac mae'n dadansoddi cofnodion llaeth a data mastitis clinigol i ragfynegi patrwm haint mastitis ar ffermydd. Mae dau fath o haint mastitis, sydd wedyn yn cael eu rhannu'n rhai sy’n tarddu o’r cyfnod llaetha neu o’r cyfnod sych.

Mae mastitis amgylcheddol yn haint sydd wedi tarddu yn amgylchedd y fuwch. Mae mastitis heintus yn haint sydd wedi'i drosglwyddo o fuwch i fuwch.

Mae'r offeryn patrwm mastitis yn defnyddio nifer yr achosion clinigol a'r amseriad o'i gymharu â’r dyddiad lloia i nodi'r patrwm, ynghyd â newidiadau yn y cyfrif celloedd somatig, a phatrymau tymhorol mewn achosion clinigol ac is-glinigol.

Lle mae gan fuwch achos clinigol o fastitis yn y deng niwrnod ar hugain cyntaf o laetha, credir bod y clefyd wedi tarddu o’r cyfnod sych, ac felly mae'n cael ei ystyried yn un sy’n tarddu o’r cyfnod sych. Pan fo mastitis yn digwydd fwy na 30 diwrnod o ddechrau’r cyfnod llaetha, mae’r haint yn tarddu o’r cyfnod llaetha. Gyda'r wybodaeth hon, gellir teilwra cyngor ar gyfer lleihau achosion mastitis i'r cyfnod sych neu'r cyfnod llaetha. Mae hyn yn osgoi gwneud newidiadau na fydd yn cael unrhyw effaith e.e. newid sut y caiff y tethau eu paratoi cyn godro mewn buches gyda phatrwm cyfnod sych.

Erbyn heddiw, credir bod dim ond tua 8% o batrymau mastitis yn rhai heintus, yn rhannol oherwydd llwyddiant ymgyrchoedd hanesyddol a oedd yn canolbwyntio ar wella diheintio tethau ar ôl godro. Ni ddangosodd yr un o'r ffermydd yn y prosiect hwn batrwm mastitis heintus unrhyw adeg o ddadansoddi data.

Methodoleg

Gofynnwyd i bob ffermwr yn y grŵp roi cyfrif celloedd somatig a data mastitis clinigol i James Breen. Roedd y rhain yn amrywio o ran ansawdd a ffynhonnell gan ddibynnu ar ba mor aml y mae'r ffermydd yn cofnodi llaeth, p'un a oedd data mastitis clinigol yn cael ei adrodd i'r cofnodwr llaeth (neu'n gorfod cael ei gael drwy gasglu data ar wahân), p'un a oedd yr holl achosion clinigol wedi'u cofnodi, a chywirdeb cofnodi rhifau adnabod gwartheg unigol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â set ddata'r cofnodwr llaeth.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, rhedodd James offeryn patrwm mastitis ar gyfer pob ffermwr, a ddangosodd y patrwm mastitis amlycaf yn y chwarter diwethaf, a chyfraddau achosion cyfredol, cyfraddau chwarterol a chyfraddau treigl 12 mis ar gyfer mastitis clinigol. Gallai rhagor o wybodaeth am gyfraddau gwella, cyfraddau heintiau newydd yn y cyfnod sych, a chyfraddau achosion mewn heffrod hefyd gael eu cyfrifo lle’r oedd y data’n galluogi hynny.

Ail-luniwyd yr adroddiadau hanner ffordd drwy'r prosiect, eto yn hydref 2024, ac maent bellach yn cael eu rhedeg am y tro olaf ddechrau mis Ionawr 2025.

Canlyniadau

Patrwm mastitis  

O'r data a gyflwynwyd, nid oedd unrhyw fferm yn dangos patrwm heintus. Roedd pob patrwm yn amgylcheddol, gyda chymysgedd o darddiadau o’r cyfnod sych a’r cyfnod llaetha. Roedd un fferm yn dangos patrwm cymysg. 

mastitis

Mastitis clinigol  

Achosion clinigol  

Casglwyd achosion mastitis clinigol naill ai wrth i ddata gael ei roi yn uniongyrchol i'r cwmni cofnodi llaeth neu ei ychwanegu at yr offeryn trwy feddalwedd arall e.e. ffeiliau a drosglwyddwyd o Uniform. Cynigiodd James gyfarwyddiadau ar ba lefel o glefyd clinigol oedd yn briodol i'w chofnodi. Cafodd gwybodaeth ei hadrodd fel data misol, a data treigl ar gyfer y chwarter a'r flwyddyn. Mae'r tabl canlynol yn dangos data misol yn ôl y misoedd dadansoddi. Mae bylchau lle na ddarparwyd data. 

Chart 2, Chart element

Mastitis is-glinigol

Casglwyd data mastitis is-glinigol fel data cyfrif celloedd somatig (SCC) o ffeiliau cofnodi llaeth. Mae defnyddioldeb y data hwn yn cael ei bennu gan amlder cofnodi llaeth e.e. cofnodi ar adegau i ddal gwartheg cyn ac ar ôl y cyfnod sych a chywirdeb rhifau adnabod buchod. Ystyrir bod SCC yn uchel pan fydd dros 200.

Canran y fuches gyda chyfrif Cell somatig uchel

Cofnodwyd canran y fuches gyda SCC dros 200 (e.e. ystyrir bod ganddynt haint mastitis is-glinigol) ac fe'i cyflwynir yn y tabl nesaf fel gwerth cychwynnol ar gyfer pob fferm. 

Chart 1, Chart element

Roedd cyfradd gychwynnol mastitis is-glinigol (fel y pennir gan nifer yr achosion o wartheg ag SCC uchel) yn amrywio o 5.5% ar Fferm I i 21.5% ar Fferm B. Mae hyn yn arbennig o ddiddorol pan edrychir ar achosion clinigol mastitis, gan fod gan Fferm un o'r cyfraddau uchaf o fastitis clinigol.

Ar y rhan fwyaf o'r ffermydd, roedd nifer yr achosion o fastitis is-glinigol yn parhau'n debyg, gyda Fferm H, er enghraifft, yn symud o 11.2% i 11.3%. Fodd bynnag, fe welodd ambell fferm newidiadau sylweddol: cynyddodd Fferm G o 13.3% i 23.4% o ddechrau'r flwyddyn hyd at fis Mai, a chynyddodd Fferm D o 11.2% i 21.2%. Fferm G oedd y fuches leiaf, ac felly gallai newid mewn un fuwch achosi naid fawr yn y ganran.

Cyfradd wella’r cyfnod sych

Cyfradd wella’r cyfnod sych yw'r ganran o wartheg sy'n cael eu sychu gyda chyfrif celloedd somatig sy’n uwch na 200 sy'n lloia o dan 200. Mae hyn yn arwydd bod y cyfnod sych wedi llwyddo i gywiro unrhyw heintiau is-glinigol sy'n bresennol adeg sychu. Y targed o ran cyfnod wella’r cyfnod sych yw dros 85%.

Yn y cyfnod casglu data cychwynnol, roedd pump o'r naw fferm a oedd yn cofnodi dros 85%; roedd ffermydd G, D, ac I ar 100% (mae angen cymryd gofal gyda'r niferoedd hyn pan fo nifer fach o wartheg ynghlwm). Y gyfradd isaf oedd Fferm C ar 33.3% (efallai oherwydd diffyg data cofnodi) ac roedd Fferm E yn agos at y targed ar 83.3%. Gwelodd Fferm B welliant gyda'u cyfradd wella yn cyrraedd 85%. Cynyddodd Fferm H o 85.7% i 100%. Roedd gan Fferm E ostyngiad bach i 80%. Roedd gan Fferm I ostyngiad o 0%, ond mae'n debygol mai ychydig neu ddim data oedd y rheswm am hyn.

Y cyfnod sych yw'r cyfle gorau i wella heintiau is-glinigol a nodir yn ystod y cyfnod llaetha, a'r dull gorau o sychu gwartheg, yn ogystal â dewis gwartheg ar gyfer therapi buchod sych. Gall defnyddio gwrthfiotigau mewn gwartheg ag SCC isel gynyddu eu risg o fastitis, ac felly ni ddylid defnyddio triniaeth gyffredinol.

Bacterioleg

Cyflwynwyd cyfanswm o 53 o samplau llaeth unigol a'u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Mae'r siart yn dangos nifer y samplau a ddangosodd bob math o bathogen. Mae cyfanswm o fwy o bathogenau na samplau oherwydd bod rhai samplau wedi tyfu organebau lluosog. 

Group 90, Grouped object

Y rhywogaeth unigol fwyaf cyffredin oedd S.uberis, ac yna E. coli. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil gyhoeddedig ar samplau bacterioleg. Tyfodd saith sampl llaeth Aerococcus viridans. Mae hwn yn facteria Gram-positif o bwysigrwydd cynyddol fel pathogen mastitis.

Roedd dau sampl yn cynnwys S.aureus, ond tyfodd 16 rywogaethau Staphylococcus  eraill.

Gall gwybod pa bathogenau sy’n achosi mastitis ar ffermydd sicrhau bod triniaethau priodol yn cael eu defnyddio. Lle’r oedd yn berthnasol, cafodd samplau eu gwirio hefyd am sensitifrwydd i benisilin. Mae defnyddio gwrthfiotigau effeithiol yn allweddol i sicrhau nad ydym fel diwydiant yn cyfrannu at ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Achosion mastitis clinigol 12 mis treigl  

Mae'r graff canlynol yn dangos yr achosion mastitis 12 mis treigl (achosion fesul 100 buwch) ar gyfer y ffermydd ar ddechrau a diwedd y prosiect. Mae natur y data hwn yn golygu bod rhai ffermydd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion, a byddem yn gobeithio gweld hynny'n gostwng erbyn 2025 os yw'r ffermydd yn dilyn y cyngor a roddwyd gan James Breen.

Group 1423571181, Grouped object

Roedd gan Fferm A ostyngiad yn nifer yr achosion o 16 achos fesul 100 o fuchod i 8 achos fesul 100 o fuchod. Yn seiliedig ar faint y fuches o 231 o wartheg, mae hyn yn golygu gostyngiad mewn achosion gwirioneddol o 37 i 19 sef, ar gost o £314 fesul achos clinigol o fastitis, yn golygu arbedion o £5,652 y flwyddyn. Ar gyfer Fferm E, cafwyd gostyngiad bach iawn, ond gan fod y fuches yn fawr, yr arbedion yw £2,512 y flwyddyn. Ar gyfer Fferm I, yr arbedion yw £4,082. Yn unol â'r prif adroddiad, mae rhai o'r ffermydd eraill wedi gweld gostyngiadau mawr o’r naill fis i’r llall, ac felly dylai'r newid wrth symud ymlaen fod yn ostyngiad mewn achosion treigl.

Cyfrif celloedd somatig 12 mis treigl

Roedd gan rai o'r ffermydd broblem gydag SCC yn hytrach nag achosion clinigol. Mae'r graff canlynol yn dangos y newid mewn cyfrifau celloedd somatig treigl.

Fferm B a welodd y gostyngiad mwyaf sylweddol mewn SCC, gyda lefelau'n gostwng o 310 i 262. Mae cyfrifau celloedd somatig wedi bod yn her i'r fferm hon, ac roedd yn un o'r rhesymau pam y gwnaethant ymuno â'r prosiect. Mae rhai o'r ffermydd eraill wedi gweld cynnydd bach neu lefelau sefydlog; mae'n debyg mai amrywiadau safonol yn unig yw'r rhain. Mae Fferm G wedi gweld cynnydd, ac mae cyfrif celloedd bellach dros 250. Ar gyfer contract llaeth y fferm hon, nid yw hyn yn bryder, gan nad ydynt yn cosbi am gyfrifau celloedd somatig ar y lefel hon, ond mae'r SCC hwn yn uchel, a bydd angen mynd i'r afael ag ef wrth i'r ffermwr barhau i roi newidiadau ar waith. Mae rhoi gwerth ariannol ar gyfrifau celloedd somatig yn anodd, gan ei fod yn dibynnu ar y lefel y mae'r contract llaeth unigol yn gosod cosbau/taliadau bonws, a beth yw’r pris (ceiniogau) fesul litr. Mae gan Fferm B gosbau a osodir ar SCC gweddol isel, ac mae'n cynhyrchu llawer iawn o laeth, felly mae 0.5 ceiniog y litr ychwanegol yn swm sylweddol o arian, a byddai'n talu'n gyflym am y newidiadau a argymhellir gan James. Mewn cyferbyniad, nid yw Fferm B yn gweld unrhyw gosbau na bonysau nes bod cyfrifau celloedd somatig yn eithriadol o uchel, ac mae'n fuches fach iawn, felly mae 0.5 ceiniog y litr yn swm llawer llai o arian. Fodd bynnag, mewn buches fechan, ceir llai o lastwreiddio, felly gall atal un fuwch rhag bod ag SCC uchel neu ei gwella yn ystod y cyfnod sych gael effaith fawr ar SCC llaeth swmp cyffredinol y fuches.

Casgliad

Mae'r prosiect bellach wedi dod i ben (mae dadansoddiad data terfynol yn cael ei gynnal gan James ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei gyflwyno fel atodiad). Mae llawer o faterion mastitis yn cymryd cryn ymdrech i'w datrys, ac efallai y byddant hefyd yn amserol e.e. mae angen i flwyddyn fynd heibio fel y gellir asesu siediau’r gaeaf, eu newid, ac yna gall y gwartheg fynd drwy'r cyfnod dan do cyn y bydd data ar gael.

Oherwydd natur fer y prosiect, ni ellir gweld gwir effaith dadansoddiad a chyngor James yn llawn yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, gellir gweld hyn lle’r oedd ffermwyr yn ymgysylltu'n llawn ac yn cynnwys cynnydd gwirioneddol eu milfeddygon.

Mae Fferm B wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion mastitis o dros 100 achos fesul 100 o fuchod ym mis Ionawr 2024 i 40 achos fesul 100 o fuchod ym mis Rhagfyr 2024. Pe bai'r ffigurau hynny'n rhai treigl, byddai hyn yn ostyngiad o 730 o achosion i 292. Ar gost o £314 fesul achos, dyna arbedion blynyddol posibl o £137,532.

Atgyfnerthodd y prosiect bwysigrwydd cofnodi data o ansawdd a dilyn techneg aseptig ar gyfer samplu llaeth. Amlygodd hefyd ba mor bwysig yw defnyddio data a gesglir ar y fferm ar gyfer prosesau gwneud penderfyniadau a pheidio â'i gasglu am ddim rheswm. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.