BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Grwpiau Trafod – Galwad agored am aelodau!

Mae Cyswllt Ffermio yn edrych am ffermwyr i fod yn rhan o’r rhaglen newydd o grwpiau trafod. Nod y rhaglen yw datblygu gwybodaeth a hyder ar ystod eang o bynciau a fydd yn cyfrannu tuag at gynnydd economaidd ac amgylcheddol busnesau’r aelodau. 

Discussion Group members

Beth yw grŵp trafod? 

Bydd yr aelodaeth yn cynnwys ffermwyr sydd â diddordeb mewn un sector benodol, gyda’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb, 4 gwaith mewn cyfnod o 12 mis (mis Ebrill – mis Mawrth)

Caiff y cyfarfodydd eu hwyluso gan un o’n Swyddogion Grwpiau Trafod, a fydd yn trefnu rhaglen i fodloni gofynion ac anghenion penodol y grŵp.

Bydd aelodaeth pob grŵp yn cynnwys 12 unigolyn ar gyfartaledd. Mae gweithgaredd y grŵp yn cael ei ariannu’n llawn gan raglen Cyswllt Ffermio. 

Mae'r gweithgaredd grwpiau trafod wedi ei gyllido'n llawn gan Cyswllt Ffermio, a gyda ymrwymiad llawn aelodau'r grwpiau, disgwylir iddynt redeg am hyd y rhaglen

Beth fydd yr aelodau’n ei ennill wrth fod yn rhan o grŵp? 

  • Yn ôl adroddiad ar grwpiau cig coch yn y rhaglen flaenorol, arweiniodd aelodaeth a meincnodi o fewn y grwpiau at welliannau cynnaliadwy o ran elw ac effeithlonrwydd.
  • Cwblhawyd gwaith dadansoddi ar Elw ar Fuddsoddiad (Return on Investment) ar grwpiau trafod yn y rhaglen Cyswllt Ffermio flaenorol. Dangosodd y gwaith hwn bod enillion i'r diwydiant o £15.71 am bob £1 a fuddsoddwyd yn y rhaglen grwpiau trafod.
  • Bydd yr aelodau’n cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr o fewn y diwydiant, yn ogystal â chael cymorth cyd-aelodau'r grŵp a Swyddog Grŵp Trafod.
  • Mae presenoldeb mewn Grŵp Trafod yn gallu cyfrif tuag at oriau DPP o dan Weithred Gyffredinol 4 (UA4) yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
  • Cymorth gyda meincnodi (gofynion gweithred gyffredinol 3 (UA3) yr SFS).
  • Bydd grŵp cyfathrebu digidol yn cael ei greu ar gyfer pob grŵp trafod, fel bod platfform ar gael i holi cwestiynau a rhannu gwybodaeth rhwng y cyfarfodydd. 

Beth fyddwn ni’n ei ddisgwyl gan yr aelodau? 

Sut mae gwneud cais? 

Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi’r ffurflen gais. 

Mae'r ffenestr gais yn agor 20/04/2026 ac yn cau 08/05/2026 am 10yh.

Os ydych angen unrhyw gymorth, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol.

**Ni allwn sicrhau y bydd y grŵp o’ch dewis ar gael yn eich ardal leol. Bydd darpariaeth y grwpiau’n ddibynnol ar y galw ac ar nifer digonol o aelodau er mwyn iddynt gael eu sefydlu.** 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.