Dosbarth meistr undydd ymarferol Cyswllt Ffermio ac AHDB Llaeth gydag Anna Bowen ac Owen Atkinson

Mae’r cyfnod ymgeisio bellach ar agor ar gyfer Meistr ar Fusnes (Llaeth), dosbarth meistr ymarferol a rhyngweithiol a luniwyd i helpu ffermwyr llaeth i ddeall ffigurau eu busnes, nodi cyfleoedd a gwneud penderfyniadau mwy hyderus.
Dan arweiniad Anna Bowen ac Owen Atkinson, bydd y diwrnod yn cyfuno cipolwg o’r diwydiant, enghreifftiau o’r byd go iawn, a chymorth ymarferol. Byddwch yn edrych ar y mesurau ariannol pwysicaf, deall sut mae iechyd y fuches yn effeithio ar broffidioldeb, ac yn defnyddio ffigurau eich fferm eich hun i nodi camau gweithredol ymarferol ar gyfer eich busnes.
Beth fydd y dosbarth meistr yn ei drafod?
- Y darlun ehangach: trosolwg o ddiwydiant llaeth y DU a Chymru, cyfeiriad presennol y farchnad laeth a sut mae costau cynhyrchu’n cymharu ar draws gwahanol systemau.
- Deall cyfrifon y fferm: costau amrywiol a gorbenion, a’r gwahaniaeth rhwng cyfrifon rheoli a chyfrifon ariannol.
- Gwneud synnwyr o’r ffigurau: sut i ddefnyddio adroddiadau costau a meincnodi’n effeithiol, gan gynnwys costau cynhyrchu llawn, elw cymharol busnesau fferm, prisiau llaeth ar gyfer adennill costau ac elw ar fuddsoddiad.
- Gwir gost clefydau: effaith ariannol uniongyrchol a chudd o ganlyniad i fastitis, cloffni a ffrwythlondeb gwael, a phryd y dylid ystyried gwariant ar filfeddygon a meddyginiaethau fel buddsoddiad.
- Beth mae’r ffermydd mwyaf llwyddiannus yn ei wneud yn wahanol: y ffigurau perfformiad sydd werth eu dilyn a ffordd syml o’u hadolygu’n rheolaidd.
- Eich fferm, eich ffigurau: sesiwn ymarferol gyda chymorth er mwyn cyfrifo mesurau allweddol, cymharu perfformiad a nodi’r cyfleoedd mwyaf o fewn eich busnes eich hun.
Ar gyfer pwy mae’r dosbarth meistr?
Mae’r dosbarth meistr hwn ar gyfer ffermwyr llaeth sy’n dymuno gwella eu dealltwriaeth o faterion ariannol ar y fferm a defnyddio gwybodaeth fusnes yn fwy effeithiol. P’un a ydych chi eisoes yn meincnodi perfformiad, neu’n edrych yn fanylach ar eich ffigurau am y tro cyntaf, bydd y diwrnod yn darparu esboniadau clir, enghreifftiau perthnasol a chymorth ymarferol.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?
Erbyn diwedd y dydd, bydd gennych ddarlun cliriach o berfformiad ariannol eich fferm, gwell dealltwriaeth o’r ffigurau ar gyfer monitro a dau neu dri cham ymarferol i’w roi ar waith ar eich fferm.
Beth sydd angen i chi ddod gyda chi ar gyfer y sesiwn?
Er mwyn cael y gwerth gorau o’r sesiwn ymarferol yn y prynhawn, dewch â’ch cyfrifon blynyddol mwyaf diweddar ynghyd â chyfrifiannell neu ffôn. Byddwch chi’n cadw eich ffigurau gyda chi drwy’r amser, ac ni fydd gofyn i chi rannu’r rhain gyda’r grŵp. Bydd fferm enghreifftiol ar gael pe byddai’n well gennych beidio â defnyddio eich cyfrifon eich hun.
Tiwtoriaid
Mae Owen Atkinson yn filfeddyg RCVS Arbenigol mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg, ac mae ganddo Dystysgrif mewn arweinyddiaeth newid. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda buchesi llaeth o bob math i wella eu perfformiad, gan ganolbwyntio'n bennaf ar well iechyd, ond hefyd mesur a meincnodi ystod o DPA ar gyfer paramedrau effeithlonrwydd cynhyrchu pwysig eraill.
Mae Anna Bowen yn ymgynghorydd busnes fferm sy’n gweithio i The Andersons Centre, gan arbenigo mewn mentrau llaeth a chynllunio rheoli maetholion. Mae Anna wedi gweithio mewn ymgynghoriaeth fferm ers dwy flynedd ar bymtheg ac mae hefyd yn ffermio ar gontract gyda buches o 300 o wartheg llaeth sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn. Mae’n gweithio gyda ffermwyr ledled Cymru a Lloegr gan ddarparu cyngor technegol, busnes a strategol, gyda ffocws ar ffermio proffidiol o systemau syml.
Dyddiadau a lleoliadau
| Date | Location |
| 2 Tachwedd 2026 | Gwesty Faenol Fawr Country House Hotel, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, LL18 5UN |
| 4 Tachwedd 2026 | Coleg Gelli Aur, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 8NJ |
Gwnewch gais nawr
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Gwnewch gais yn ystod y cyfnod ymgeisio am gyfle i gymryd rhan yn y dosbarth meistr undydd hwn, er mwyn datblygu sgiliau ymarferol i wella eich penderfyniadau, eich perfformiad a’ch proffidioldeb o fewn eich busnes llaeth.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
