BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meistr ar Fusnes (Llaeth): defnyddio ffigurau eich fferm i wneud gwell penderfyniadau busnes

Dosbarth meistr undydd ymarferol Cyswllt Ffermio ac AHDB Llaeth gydag Anna Bowen ac Owen Atkinson 

llaeth

Mae’r cyfnod ymgeisio bellach ar agor ar gyfer Meistr ar Fusnes (Llaeth), dosbarth meistr ymarferol a rhyngweithiol a luniwyd i helpu ffermwyr llaeth i ddeall ffigurau eu busnes, nodi cyfleoedd a gwneud penderfyniadau mwy hyderus.

Dan arweiniad Anna Bowen ac Owen Atkinson, bydd y diwrnod yn cyfuno cipolwg o’r diwydiant, enghreifftiau o’r byd go iawn, a chymorth ymarferol. Byddwch yn edrych ar y mesurau ariannol pwysicaf, deall sut mae iechyd y fuches yn effeithio ar broffidioldeb, ac yn defnyddio ffigurau eich fferm eich hun i  nodi camau gweithredol ymarferol ar gyfer eich busnes. 

 

Beth fydd y dosbarth meistr yn ei drafod? 

  • Y darlun ehangach: trosolwg o ddiwydiant llaeth y DU a Chymru, cyfeiriad presennol y farchnad laeth a sut mae costau cynhyrchu’n cymharu ar draws gwahanol systemau.
  • Deall cyfrifon y fferm: costau amrywiol a gorbenion, a’r gwahaniaeth rhwng cyfrifon rheoli a chyfrifon ariannol.
  • Gwneud synnwyr o’r ffigurau: sut i ddefnyddio adroddiadau costau a meincnodi’n effeithiol, gan gynnwys costau cynhyrchu llawn, elw cymharol busnesau fferm, prisiau llaeth ar gyfer adennill costau ac elw ar fuddsoddiad.
  • Gwir gost clefydau: effaith ariannol uniongyrchol a chudd o ganlyniad i fastitis, cloffni a ffrwythlondeb gwael, a phryd y dylid ystyried gwariant ar filfeddygon a meddyginiaethau fel buddsoddiad.
  • Beth mae’r ffermydd mwyaf llwyddiannus yn ei wneud yn wahanol: y ffigurau perfformiad sydd werth eu dilyn a ffordd syml o’u hadolygu’n rheolaidd.
  • Eich fferm, eich ffigurau: sesiwn ymarferol gyda chymorth er mwyn cyfrifo mesurau allweddol, cymharu perfformiad a nodi’r cyfleoedd mwyaf o fewn eich busnes eich hun. 

 

Ar gyfer pwy mae’r dosbarth meistr?

Mae’r dosbarth meistr hwn ar gyfer ffermwyr llaeth sy’n dymuno gwella eu dealltwriaeth o faterion ariannol ar y fferm a defnyddio gwybodaeth fusnes yn fwy effeithiol. P’un a ydych chi eisoes yn meincnodi perfformiad, neu’n edrych yn fanylach ar eich ffigurau am y tro cyntaf, bydd y diwrnod yn darparu esboniadau clir, enghreifftiau perthnasol a chymorth ymarferol. 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Erbyn diwedd y dydd, bydd gennych ddarlun cliriach o berfformiad ariannol eich fferm, gwell dealltwriaeth o’r ffigurau ar gyfer monitro a dau neu dri cham ymarferol i’w roi ar waith ar eich fferm. 

Beth sydd angen i chi ddod gyda chi ar gyfer y sesiwn?

Er mwyn cael y gwerth gorau o’r sesiwn ymarferol yn y prynhawn, dewch â’ch cyfrifon blynyddol mwyaf diweddar ynghyd â chyfrifiannell neu ffôn. Byddwch chi’n cadw eich ffigurau gyda chi drwy’r amser, ac ni fydd gofyn i chi rannu’r rhain gyda’r grŵp. Bydd fferm enghreifftiol ar gael pe byddai’n well gennych beidio â defnyddio eich cyfrifon eich hun. 

 

Tiwtoriaid 

Owen AtkinsonMae Owen Atkinson yn filfeddyg RCVS Arbenigol mewn Iechyd a Chynhyrchu Gwartheg, ac mae ganddo Dystysgrif mewn arweinyddiaeth newid. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda buchesi llaeth o bob math i wella eu perfformiad, gan ganolbwyntio'n bennaf ar well iechyd, ond hefyd mesur a meincnodi ystod o DPA ar gyfer paramedrau effeithlonrwydd cynhyrchu pwysig eraill.

 

 

Anna BowenMae Anna Bowen yn ymgynghorydd busnes fferm sy’n gweithio i The Andersons Centre, gan arbenigo mewn mentrau llaeth a chynllunio rheoli maetholion. Mae Anna wedi gweithio mewn ymgynghoriaeth fferm ers dwy flynedd ar bymtheg ac mae hefyd yn ffermio ar gontract gyda buches o 300 o wartheg llaeth sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn. Mae’n gweithio gyda ffermwyr ledled Cymru a Lloegr gan ddarparu cyngor technegol, busnes a strategol, gyda ffocws ar ffermio proffidiol o systemau syml. 

 

 

Dyddiadau a lleoliadau    

DateLocation
2 Tachwedd 2026Gwesty Faenol Fawr Country House Hotel, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, LL18 5UN
4 Tachwedd 2026Coleg Gelli Aur, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 8NJ

 

Gwnewch gais nawr 

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Gwnewch gais yn ystod y cyfnod ymgeisio am gyfle i gymryd rhan yn y dosbarth meistr undydd hwn, er mwyn datblygu sgiliau ymarferol i wella eich penderfyniadau, eich perfformiad a’ch proffidioldeb o fewn eich busnes llaeth. 

Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).

Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.