BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Dosbarthiadau Meistr 2026

Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am bynciau technegol allweddol i wella perfformiad eich busnes, mae Dosbarthiadau Meistr Cyswllt Ffermio yn berffaith ar eich cyfer chi. Bydd y dosbarthiadau hyn a gynhelir ar ffurf gweithdai yn darparu cyfuniad o elfennau ymarferol a theori mewn grwpiau bach. Rydym ni’n eich annog i fanteisio ar y cyfle i glywed gan ffermwyr profiadol, arbenigwyr arweiniol ac ymgynghorwyr. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod wedi ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eu cyfrif One Login GOV.UK newydd. Dilynwch y camau hawdd canlynol:

  • Crëwch eich cyfrif One Login GOV.UK drwy ymweld â: Mewngofnodi ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein | LLYW.CYMRU
  • Unwaith y bydd eich cyfrif One Login wedi'i sefydlu, byddwch yn gallu ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio –Gallwch wneud hyn drwy RPW ar-lein, unwaith y bydd gennych gyfrif One Login.  
  • Bydd angen eich rhif CON presennol arnoch hefyd yn ystod y broses ailgofrestru. (Mae llythyr wedi'i anfon at bob defnyddiwr yn rhestru pob rhif CON sy'n gysylltiedig â'u busnes.)

I unrhyw un sydd angen cymorth neu arweiniad cam wrth gam, mae Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar gael i'ch cefnogi. Cysylltwch â'r tîm ar 03456 000 813.

Mae canllawiau pellach ar gael yma! 

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Meistr ar Borfa a Meistr Regen bellach AR AGOR tan 11 Mai 2026.  

Cliciwch ar y blychau isod i ddysgu mwy am gynnwys y gweithdai ac i wneud cais am le.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.