Dewch i ddarganfod a chefnogi y genhedlaeth nesaf o ffermwyr
Mae Dechrau Ffermio yn cefnogi deiliaid tir sydd â diddordeb mewn darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth gymryd rhan mewn mentrau ar y cyd a phartneriaethau ffermio cydweithredol eraill. Os oes gennych dir, busnes, neu fenter ac yn archwilio ffyrdd o ddod â sgiliau newydd, egni neu opsiynau olyniaeth yn y dyfodol i mewn, gall Dechrau Ffermio eich helpu i adnabod a gweithio gydag ymgeisydd addas. Efallai nad oes gennych olynydd naturiol, neu efallai ei bod hi ychydig yn gynnar iddyn nhw gamu i mewn i'r busnes. Gallai menter ar y cyd fod yn gam i lenwi'r bwlch hwnnw yn y tymor byr, canolig neu hir.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i'ch helpu i archwilio partneriaethau yn ddiogel, yn realistig ac ar gyflymder sy'n gweithio i chi.
Drwy gymryd rhan yn y cynllun Dechrau Ffermio, gallwch gael mynediad at gymorth i:
- Archwilio cyfleoedd newydd - Ystyried opsiynau fel lleoliadau gwaith, mentrau ar y cyd, partneriaethau neu lwybrau olyniaeth i'r busnes.
- Cysylltu â Cheiswyr - Paru a hwyluso i helpu deiliaid tir a cheiswyr tir i archwilio mentrau ar y cyd a phartneriaethau
- Asesu addasrwydd a hyfywedd - Derbyn cymorth strwythuredig i archwilio cydnawsedd, disgwyliadau a'r ystyriaethau ymarferol dan sylw.
- Gwneud cynllun - Cymorth busnes wedi'i ariannu'n llawn hyd at £2750 fesul partner i archwilio a phrofi hyfywedd busnes, datblygu cynllun busnes a'ch dealltwriaeth o fentrau ffermio cydweithredol.
- Lleihau risg - Cyllid o hyd at £2000 fesul partner tuag at gyngor arbenigol i ffurfioli cytundebau a chontractau cyfreithiol
Nid yw cymryd rhan yn eich rhwymo i drefniant hirdymor — gall cyfleoedd fod yn archwiliadol ac yn gymesur.
Cymerwch y cam nesaf
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi newydd ddyfodwr, tyfu eich busnes, neu archwilio ffyrdd cydweithredol o weithio, gall Dechrau Ffermio eich helpu i gymryd y cam cyntaf.
Cliciwch yma i gwblhau Proffil Darparwr neu cysylltwch â'ch Hwylusydd rhanbarthol i drafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.
Os oes gennych bartner busnes mewn golwg eisoes ac felly heb yr angen am wasanaeth paru, gallwch hepgor y cam hwn i gael mynediad at gyngor busnes a chyfreithiol ar unwaith. Cysylltwch â'ch hwylusydd rhanbarthol.