Ydych chi'n ymchwilydd sy'n awyddus i gydweithio â ffermwyr? Gall Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio helpu i gysylltu ymchwilwyr, academyddion a sefydliadau Ymchwil a Datblygu â ffermwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.
Gall cyfleoedd gynnwys ymchwilwyr sy'n chwilio am:
- Safleoedd ar gyfer arbrofion ar y fferm
- Unigolion sy’n cymryd rhan mewn gwaith ymchwil – ffermwyr a/neu gynrychiolwyr y diwydiant
- Cyfleoedd i gasglu data
- Adborth gan ffermwyr a golwg fanylach ar y diwydiant
- Profi a datblygu arloesedd
- Cyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil i fyfyrwyr
Bydd pob cyfle a hyrwyddir drwy dudalen we cyfeirio Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn cefnogi egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.