BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Rwy'n ymchwilydd sy'n edrych i gydweithio

Ydych chi'n ymchwilydd sy'n awyddus i gydweithio â ffermwyr? Gall Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio helpu i gysylltu ymchwilwyr, academyddion a sefydliadau Ymchwil a Datblygu â ffermwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth. 

 

Gall cyfleoedd gynnwys ymchwilwyr sy'n chwilio am: 

  • Safleoedd ar gyfer arbrofion ar y fferm 
  • Unigolion sy’n cymryd rhan mewn gwaith ymchwil – ffermwyr a/neu gynrychiolwyr y diwydiant 
  • Cyfleoedd i gasglu data 
  • Adborth gan ffermwyr a golwg fanylach ar y diwydiant 
  • Profi a datblygu arloesedd 
  • Cyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil i fyfyrwyr 

Bydd pob cyfle a hyrwyddir drwy dudalen we cyfeirio Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn cefnogi egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Cwblhewch y ffurflen fer isod, cyflwynwch eich cyfle a chysylltwch eich gwaith ymchwil ag arferion ffermio. 

Cyfleoedd ar gyfer cydweithio
Ydych chi'n aelod o Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio?
Pa fath o gydweithio ydych chi'n chwilio amdano?
Aliniad ag amcanion y rhaglen
Datganiad

Drwy gyflwyno'r ffurflen hon, rydych yn cydnabod: 

  • Bydd Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yn gwneud ymdrech rhesymol i gyfeirio cyfleoedd perthnasol at gynulleidfaoedd priodol drwy'r tudalennau gwe cyfeirio; fodd bynnag, ni ellir sicrhau y byddwch yn cael eich paru â chyfle ac ni ellir sicrhau ymatebion llwyddiannus. 
  • Bydd pob cyflwyniad yn cael ei adolygu i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). 
  • Caniatewch hyd at 15 diwrnod gwaith i'ch cyflwyniad gael ei adolygu a, lle bo'n briodol, ei gyhoeddi ar dudalen we cyfeirio Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio. Mewn cyfnodau prysur iawn, byddwch yn ymwybodol y gallai hyn gymryd mwy o amser felly caniatewch ddigon o amser paratoi. 
  • Mae gan Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio’r hawl i ddiwygio cyflwyniadau er mwyn eglurder, cysondeb ac addasrwydd cyn eu cyhoeddi.  
  • Mae gan Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio'r hawl i beidio â chyhoeddi cyflwyniadau sy'n anghyflawn, yn amhriodol neu y tu allan i gwmpas y gwasanaeth. 
  • Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei phrosesu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio . 

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.