Cysylltu gwaith ymchwil, arloesi a ffermio yng Nghymru
Nod Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio yw creu partneriaethau sydd o fudd i bawb sy'n cyflymu'r broses o drawsnewid ymchwil yn ganlyniadau ymarferol ar y fferm. Drwy gysylltu arbenigedd â heriau yn y byd go iawn, mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth yn cefnogi arloesedd sy'n darparu manteision i fusnesau ffermio, cymunedau a'r amgylchedd ehangach. Drwy ein gwasanaeth cyfeirio ar-lein, ein nod yw ei gwneud hi'n haws i ffermwyr ac ymchwilwyr gysylltu o amgylch cyfleoedd a heriau a rennir.
Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo;
- Ymchwilwyr sy'n chwilio am gyfleoedd i gydweithio ac i gael mewnbwn ymarferol
- Ffermwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i wneud gwaith ymchwil
- Ffermwyr gyda syniad i'w ddatblygu
- Adeiladu rhwydwaith arloesi cryfach ledled Cymru a thu hwnt