BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Tom Powell

Aberhonddu, Powys

Tom Powell  Mae Thomas Powell yn Arbenigwr Technegol Porthiant gyda ForFarmers, gan gwmpasu Canolbarth a Gogledd Cymru, ochr yn ochr â rhan flaenllaw ar ei fferm deuluol ucheldir ger Talgarth. Yn ei rôl broffesiynol, mae Thomas yn cynorthwyo rheolwyr cyfrifon anifeiliaid cnoi cil a ffermwyr gyda datrysiadau sy'n seiliedig ar borthiant, gan helpu i wneud y mwyaf o strategaethau bwydo a gwella perfformiad y fferm.

Ers dychwelyd o'r brifysgol, mae Thomas wedi cymryd mwy o gyfrifoldeb am y fenter ffermio deuluol, gan ŵyna 500 o famogiaid yn yr awyr agored, ochr yn ochr â magu lloi llaeth a gwerthu gwartheg stôr. Mae ei ddull yn canolbwyntio'n gadarn ar wneud y defnydd mwyaf o borthiant a dyfir gartref a gweithredu system gynaliadwy, mewnbwn isel.

Mae Thomas wedi defnyddio gwasanaethau cymorth Cyswllt Ffermio, gan gynnwys dadansoddi’r pridd a phorthiant, sydd wedi llywio gwelliannau ym mherfformiad glaswelltir, ffensio a bioamrywiaeth ar draws y fferm.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Thomas yn canolbwyntio ar wella gwydnwch o fewn y busnes yn wyneb heriau economaidd ac amgylcheddol. Mae'n awyddus i barhau i wella iechyd y pridd, cynhyrchu porthiant ac adnoddau ar y fferm, wrth ehangu ei rwydwaith proffesiynol. Trwy'r Academi Amaeth, ei nod yw cael safbwyntiau newydd, meithrin hyder a chymhwyso syniadau newydd i gryfhau'r fferm a'i rôl ehangach o fewn y sector amaethyddol. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.