BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meriel Evans

Llanrhystud, Ceredigion

Meriel Evans  Mae Meriel Evans wedi’i lleoli yn Llanrhystud ac mae'n datblygu ei phrofiad o fewn busnes ffermio'r teulu. Gyda chefndir mewn addysg amaethyddol, mae hi wedi sefydlu sylfaen dda mewn theori ac ymarfer.

Ar hyn o bryd mae Meriel yng nghyfnod cynnar ei gyrfa ac yn canolbwyntio ar feithrin hyder ac ennill y wybodaeth sydd ei hangen i gyfrannu'n fwy llawn at y busnes.

Mae hi'n arbennig o awyddus i ddeall sut mae gwahanol systemau ffermio'n gweithredu a sut y gellir defnyddio dulliau newydd i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.

Drwy’r Academi Amaeth, mae Meriel yn awyddus i ehangu ei phrofiad, dysgu gan eraill yn y sector a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i’w chynorthwyo i wneud penderfyniadau yn y dyfodol o fewn y busnes.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.