- Math o ddigywddiad:
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Coleg Llysfasi, Rhuthin + other venues
Event overview
Pan fod pob eiliad yn cyfrif: Gweithdai cymorth cyntaf ymarferol i ffermwyr
Mae ffermio yn un o'r diwydiannau mwyaf peryglus yng Nghymru, a phan fo damwain yn digwydd, gall y camau a gymerir yn y munudau cyntaf wneud byd o wahaniaeth. Dyna pam mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a'r tîm meddygol y tu ôl i Ambiwlans Awyr Cymru – Y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) wedi dod ynghyd i ddarparu gweithdy cymorth cyntaf mewn argyfwng ac ymarferol sydd wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ffermwyr a gweithwyr fferm.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru a'r EMRTS yn ymateb i 90 digwyddiad ar gyfartaledd sy'n ymwneud â ffermio bob blwyddyn; gyda llawer ohonynt yn ymwneud ag argyfyngau meddygol a thrawmatig difrifol, megis:
· Damweiniau gyda cherbydau
· Anafiadau ar ôl gwasgfa
· Digwyddiadau yn ymwneud â da byw
· Ataliad y galon
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i chi ymateb yn effeithiol mewn argyfwng ar y fferm tra byddwch yn aros i gymorth meddygol proffesiynol gyrraedd.
Drwy senarios realistig sy'n seiliedig ar fywyd ar y fferm, bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau hanfodol sy'n achub bywydau, gan gynnwys:
· CPR a Chymorth Bywyd Sylfaenol
· Rheoli gwaedu difrifol iawn
· Ymateb i anafiadau ar ôl gwasgfa
· Llosgiadau
· Ymdrin ag argyfyngau mewn lleoliadau gwledig anghysbell lle gallai cymorth gymryd amser i gyrraedd.
Peidiwch ag aros nes bod argyfwng yn digwydd. Buddsoddwch ychydig oriau nawr i ddysgu sgiliau achub bywyd a allai amddiffyn eich teulu, eich gweithwyr, eich cydweithwyr neu'ch cymdogion yn y dyfodol.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
Mae angen neilltuo lle. I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio: 03456 000 813
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Iau, 15 Hyd 2026 | 1 - 4yp | Coleg Llysfasi, Rhuthin |
FREE |
- | Book online |
| Iau, 15 Hyd 2026 | 5 - 8yp | Coleg Llysfasi, Rhuthin |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 20 Hyd 2026 | 1 - 4yp | Tan Y Graig, Llanfarian |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 20 Hyd 2026 | 5 - 8yp | Tan Y Graig, Llanfarian |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 3 Nov 2026 | 1 - 4yp | Hafod Yr Hendre, Llanfair-ym-Muallt |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 3 Nov 2026 | 5 - 8yp | Hafod Yr Hendre, Llanfair-ym-Muallt |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 17 Nov 2026 | 1 - 4yp | Gwesty Ivy Bush, Caerfyrddin |
FREE |
- | Book online |
| Maw, 17 Nov 2026 | 5 - 8yp | Gwesty Ivy Bush, Caerfyrddin |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@mentera.cymru
- Email:
- farmingconnect@mentera.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Bydd y mynychwyr y gweithdy yn gweithio drwy arferion cyfreithiol, lles, iechyd a rheoli cyffredinol...
Gwahoddir newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant amaeth a’r sector llaeth i ddigwyddiad ar y fferm, lle...
Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer y gweithdy ymarferol hwn sy'n rhoi'r sgiliau a'r hyder i dyfwyr...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio drwy ddeall y budd o wybod statws clefydau buches a'r rôl y...