- Math o ddigywddiad:
- Dyddiad ac amser:
- Lleoliad:
- Online
Event overview
Siaradwyr: Nerys Llewelyn Jones, Agri Advisor a Haydn Evans, Hwylusydd Olyniaeth
Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn un o'r penderfyniadau pwysicaf y gall teuluoedd sy'n ffermio ei wneud. Ymunwch â ni am weminar a fydd yn trafod agweddau allweddol ar olyniaeth, blaengynllunio a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r busnes teuluol.
Beth fydd yn cael ei drafod?
Bydd Nerys yn rhoi trosolwg o'r agweddau cyfreithiol sy'n ymwneud ag olyniaeth, gan gynnwys
- Y sefyllfa bresennol o ran Treth Etifeddiant (IHT)
- Pam mae cynllunio olyniaeth yn hanfodol
- Ystyriaethau allweddol i deuluoedd sy'n ffermio wrth baratoi ar gyfer y dyfodol
- Camau ymarferol i helpu i osgoi problemau a gwella sicrwydd i'r genhedlaeth nesaf
Bydd Haydn yn canolbwyntio ar ochr ddynol y broses olyniaeth, gan drafod:
- Pwysigrwydd cyfathrebu agored o fewn y teulu
- Sut i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio barn ac i ddod i gytundeb
- Heriau a chyfleoedd o ran trafodaethau teuluol am y dyfodol
- Astudiaeth achos bersonol yn seiliedig ar brofiad ei deulu ei hun
Pam mynychu?
Bydd y weminar hon yn cynnig cipolwg gwerthfawr i'r camau cyfreithiol ac ymarferol sydd eu hangen i gynllunio olyniaeth yn effeithiol, gan helpu teuluoedd i ddechrau'r sgwrs bwysig sydd yn aml yn cael ei ohirio.
Peidiwch â cholli'r cyfle i gael cyngor arbenigol a dysgu o brofiadau go iawn.
I fynychu, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio. Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, gwnewch hynny drwy wefan Cyswllt Ffermio.
Ymunwch â ni i gael arweiniad arbenigol ac i sicrhau bod eich fferm wedi’i pharatoi’n dda ar gyfer cam nesaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae angen neilltuo lle. I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Tîm Digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar digwyddiadaucyswlltffermio@mentera.cymru
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Maw, 10 Nov 2026 | 7:30 - 9yp | Online |
FREE |
- | Book online |
| Iau, 19 Nov 2026 | 7:30 - 9yp | Online |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@mentera.cymru
- Email:
- farmingconnect@mentera.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Bydd cyfranogwyr y gweithdy yn ystyried yr achosion amrywiol o erthylu ac yn dysgu am yr effaith ar...
Bydd mynychwyr y gweithdy’n gweithio drwy’r agweddau ar iechyd a rheolaeth anifeiliaid i wella...
Pan fod pob eiliad yn cyfrif: Gweithdai cymorth cyntaf ymarferol i ffermwyr
Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdy yn dysgu am y cylch bywyd a’r arwyddion clinigol sy’n...