BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Busnes proffidiol o'r ddaear i fyny: Lleihau costau a gwella elw ar fuddsoddiad

Ymunwch â ni yn Ty Coch, Llangynhafal ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van Barneveld (Graise Consultancy), gan ganolbwyntio ar leihau costau mewnbwn, gwella effeithlonrwydd maetholion ac atgyfnerthu gwydnwch systemau llaeth mewn marchnad heriol.
Event type:
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Ty Coch

Event overview

Ymunwch â ni yn Ty Coch, Llangynhafal ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van Barneveld (Graise Consultancy), gan ganolbwyntio ar leihau costau mewnbwn, gwella effeithlonrwydd maetholion ac atgyfnerthu gwydnwch systemau llaeth mewn marchnad heriol.

Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar yr hyn sydd wir yn llywio elw o ffermio llaeth sy'n seiliedig ar laswellt – o benderfyniadau ar bridd a meincnodi i ddefnyddio data i wella perfformiad – gydag enghreifftiau ymarferol y gallwch eu cymhwyso ar eich fferm eich hun.

Bydd mynychu’r digwyddiad hwn yn cael ei gofnodi a bydd yn cyfrif fel 2.5 awr tuag at weithred gyffredinol 4 (Datblygiad Proffesiynol Parhaus - DPP) o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Beth fyddwn yn ei drafod:

Iechyd y pridd, maetholion ac effeithlonrwydd gwrtaith (SFS UA1 – Iechyd y Pridd)

  • Rôl profi pridd o fewn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
  • Defnyddio dadansoddiad pridd i gyfrifo cyfraddau priodol, amseriad a dewis cynnyrch
  • Sut mae gwell cydbwysedd o ran maetholion yn cefnogi twf glaswellt, perfformiad anifeiliaid a gwydnwch y fferm
  • Edrych ar wahanol fathau o wrtaith a dulliau gwasgaru

Arddangosfa ymarferol yn dangos ffyrdd i leihau colledion a gwella cymeriant maetholion mewn systemau llaeth.

Defnyddio data i gael y mwyaf o’ch mewnbynnau (SFS UA3 – Meincnodi)

  • Bydd Tryphena Williams o Cyswllt Ffermio yn dangos sut gellir defnyddio data meincnodi nid yn unig ar gyfer cydymffurfiaeth â'r cynllun, ond i nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb ar y fferm.
  • Trosolwg ymarferol o DATAFFERM+, yr offeryn meincnodi am ddim sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio i'ch helpu i gyflawni gofynion meincnodi'r SFS a monitro enillion o fewnbynnau dwysfwyd a gwrtaith.

Nid yw neilltuo lle'n hanfodol ond fe'ch anogir i wneud at ddibenion bwyd.

I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch ag Osian Hughes osian.hughes@mentera.cymru 07985379880.

 

Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd. 

Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Llun, 29 Meh 2026 11yb - 2yp Ty Coch FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


What's On

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...

Ymunwch â ni yn Ty Coch, Llangynhafal ar gyfer digwyddiad ymarferol ar y fferm gyda Andre Van...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.