BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login

Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio erbyn 7 Rhagfyr 2026 

Os yw eich busnes yn  rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), mae angen i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i gael mynediad at y cyfleoedd a’r cymorth ymarferol sydd ar gael i’ch helpu i gyflawni gofynion yr SFS. 

Pam cofrestru erbyn 7 Rhagfyr? 

Mae cofrestru erbyn 7 Rhagfyr yn rhoi amser i ni brosesu eich cofrestriad a sicrhau bod eich cofnodion yn gyfredol. Peidiwch ag aros tan ddyddiad cau'r SFS ar 31 Rhagfyr. Ni ellir gwarantu y bydd cofrestriadau a ddaw i law ar ôl 7 Rhagfyr yn cael eu prosesu mewn pryd ar gyfer dyddiad cau'r SFS ar ddiwedd y flwyddyn. 

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud 

  1. Mewngofnodi i RPW ar-lein. 
  1. Cwblhau eich proses ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio erbyn 7 Rhagfyr. 
  1. Sicrhau bod yr unigolion perthnasol yn eich busnes wedi cofrestru. 
  1. Cwblhau'r dysgu gofynnol cyn y dyddiad cau ar ddiwedd y flwyddyn. 

Hyd yn oed os ydych wedi defnyddio Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, mae angen i chi ailgofrestru drwy RPW ar-lein o hyd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn symud o Borth y Llywodraeth i  GOV.UK One Login ar gyfer pob gwasanaeth cymorth gwledig digidol. Bydd y newid hwn yn effeithio ar sut rydych yn cael mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio.

Gweithredwch nawr i sicrhau y gallwch barhau i gael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael.

Ail gofrestru gyda Cyswllt Ffermio
  • Crëwch eich cyfrif One Login GOV.UK drwy ymweld â: Mewngofnodi ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein | LLYW.CYMRU
  • Unwaith y bydd eich cyfrif One Login wedi’i sefydlu, byddwch yn gallu ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio – Gallwch wneud hyn drwy RPW ar-lein, unwaith y bydd gennych gyfrif One Login.
  • Bydd angen eich rhif CON presennol arnoch hefyd yn ystod y broses ailgofrestru. (Mae llythyr wedi’i anfon at bob defnyddiwr yn rhestru pob rhif CON sy’n gysylltiedig â’u busnes.)

Bydd gweithredu nawr yn sicrhau na fyddwch yn colli mynediad at wasanaethau Cyswllt Ffermio na’ch cofnod Storfa Sgiliau. 

Mae mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau hanesyddol yn hanfodol os ydych yn gwneud cais i fod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth, gall tîm y Ganolfan Wasanaeth eich cynorthwyo – cysylltwch â nhw ar 03456 000 813.

Canllaw Cam Wrth Gam ar gyfer Ail-gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, trwy RPW Ar-lein

Ydych chi wedi anghofio eich rhif CON? Llenwch y wybodaeth yn y ffurflen isod, gall Cyswllt Ffermio eich helpu!


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.