BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Torri coed unigol sydd wedi eu chwythu gan y gwynt

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad annibynnol, a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Gall defnyddio llif gadwyn fod yn weithgaredd peryglus. Mae gweithio ar goed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt gyda llif gadwyn yr un mor beryglus. Bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn gallu ymdrin â choed unigol neu nifer o goed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt; mae’r cwrs hefyd yn trafod canghennau crog a changhennau sydd wedi torri. Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau’r cymwysterau Cynnal a Chadw, Trawslifio, Cwympo Coed dan 380mm a dros 380mm er mwyn mynychu’r cwrs hwn.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.