BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

E-ddysgu

Technoleg Fanwl Gywir mewn Amaethyddiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2020
Diweddarwyd diwethaf:
6 June 2025

Yn hanesyddol, mae dyfodiad technolegau newydd wedi newid ac esblygu arferion ffermio yn barhaus, fel eu bod wedi dod yn fwyfwy effeithlon, cynaliadwy a phroffidiol.

Erbyn heddiw, oherwydd pwysau sylweddol ar y sector amaethyddol i gynyddu cynhyrchiant bwyd, i fod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd a pharhau i fod yn broffidiol, mae ystod eang o dechnolegau arloesol yn cael eu datblygu. 

Mae datblygiad technolegau o’r fath wedi cyflymu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf, a chyfeirir atynt erbyn hyn fel dull o reoli systemau cynhyrchu sy’n seiliedig ar wybodaeth, neu amaethyddiaeth fanwl, a disgwylir i hyn helpu i fynd i’r afael â’r pwysau cynyddol ar amaethyddiaeth o safbwynt amgylcheddol, economaidd, y farchnad a’r cyhoedd.
 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.