BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Rheoli Cwningod a Gwahaddod - Technegau Trapio

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
31 Mawrth 2025

Cwrs hyfforddiant undydd gyda thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau rheoli cwningod a gwahaddod, naill ai’n fasnachol neu o ran diddordeb, gan ddefnyddio dulliau ffisegol. Bydd yr hyfforddiant yn darparu’r ddealltwriaeth i’ch galluogi i gynllunio a chyflawni tasgau rheoli cwningod a gwahaddod. Bydd yn darparu gwybodaeth ymarferol o ddulliau ataliol a chywirol er mwyn gallu cynllunio, gweithredu a monitro rhaglen reolaeth sy’n addas ar gyfer y sefyllfa benodol, gan  ddefnyddio dulliau effeithlon a diogel a pharchu’r amgylchedd.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.