BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Meistroli Meddyginiaethau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
1 Hydref 2024

Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Nod y gweithdy yw cynyddu dealltwriaeth y mynychwyr o ddiogelwch ac arfer dda, yn ogystal ag amlinellu’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer defnyddio meddyginiaethau ar y fferm. Mae’r cwrs hefyd yn anelu at ddatblygu dealltwriaeth mynychwyr o’r gwahanol fathau o feddyginiaethau a ddefnyddir a sut mae’r rhain yn berthnasol i’r clefydau cyffredin sydd i’w gweld ar eu ffermydd. Trwy fynychu’r cwrs, byddwch yn dysgu sut i: roi meddyginiaethau milfeddygol i’r anifeiliaid sydd yn eich gofal, storio a chadw meddyginiaethau ar y fferm yn unol â gofynion deddfwriaethol a gwarant fferm,  disgrifio’r gwahaniaeth rhwng brechlynnau a thriniaethau  a’r gwahanol ddosbarthiadau deddfwriaethol, disgrifio’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng gwahanol fathau o wrthfiotigau a’r angen am arweiniad milfeddygol er mwyn eu defnyddio, disgrifio’r dosbarthiadau sylfaenol o driniaeth anthelminitig a’r angen am arweiniad milfeddygol neu SQP er mwyn eu defnyddio, deall sut mae cyffuriau NSAID yn gweithio a sut y dylid eu defnyddio. Byddwch yn dod i ddeall y cyfrifoldeb sydd ar y rhai hynny sy’n rhoi meddyginiaethau i anifeiliaid fferm.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

 

Nodwch oherwydd cyfyngiadau presennol yn sgil Covid 19, gall y darparwyr isod cyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.