BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Hylendid a Bioddiogelwch (Pasbort Dofednod)

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
9 Mai 2023

Cwrs hyfforddiant hanner diwrnod, a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bydd y cwrs yn trafod y pynciau canlynol: Beth yw Bioddiogelwch; Offer angenrheidiol er mwyn cynnal bioddiogelwch; Sut i  gael gafael ar yr offer gofynnol; Rhesymau dros fioddiogelwch a gweithdrefnau hylendid y safle; Monitro ac archwilio gweithdrefnau bioddiogelwch; Gweithdrefnau ar gyfer storio a defnyddio cemegau yn ddiogel; Cyfraddau gwanhau cemegau a’u pwysigrwydd; Adnabod deddfwriaethau, codau ymarfer a safonau cynlluniau gwarant y DU; gofynion COSHH; Gwaredu cynnyrch neu grynodiadau sydd wedi’u defnyddio; Mesurau penodol er mwyn rheoli; Salmonela a Campylobacter; Adnabod clefydau dofednod a mesurau rheoli penodol.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

 

Nodwch gall Jimmy Hughes Training Services gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.