BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Gweithio’n ddiogel yn Amaethyddiaeth/Garddwriaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Dyma gwrs hyfforddi undydd gyda thystysgrif am ei gwblhau.

Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn addas i chi os ydych chi'n gweithio yn y sector amaethyddiaeth neu arddwriaeth, yn deall y sector neu os hoffech chi gael gyrfa ynddo. 
Bydd y cwrs yn gymorth i chi ddatblygu eich gwybodaeth o ofynion iechyd a diogelwch, a bydd yn fodd i chi ychwanegu at eich datblygiad proffesiynol parhaus. 

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall Jimmy Hughes Training Services gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.