BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

E-learning

Ffermio Cynaliadwy - Creu a Chynnal Ffrwythlondeb y Pridd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf:
16 Mehefin 2025

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno gwahanol bynciau sy'n hanfodol ar gyfer gwella ffrwythlondeb eich pridd a chynyddu cynhyrchiant eich cnydau. Bydd yn cyflwyno gwybodaeth am hanfodion ffrwythlondeb pridd, y gwahanol rannau o’r pridd,  mesur y pridd, ac arferion da ar gyfer rheoli’r pridd. Mae’r modiwl hefyd yn eich cyflwyno i ddulliau ymarferol o sut i reoli’r pridd. Mae'r arferion y byddwch chi'n eu defnyddio’n cynnwys cylchdroi cnydau, gan ddefnyddio tail gwyrdd, compostio, a thrin y tir yn llai aml. Mae'r arferion rheoli pridd yn gynaliadwy yn darparu manteision er mwyn gwella ffrwythlondeb y pridd, atal pla a chlefydau, gwella’r cyflenwad o faetholion i'r planhigyn ac yn y pen draw gynyddu cynhyrchiant cnydau.   

Gweld y cwrs ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.