BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Dyfarniad Lefel 3 mewn Iechyd a Diogelwch Goruchwyliol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2023

Cwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar wahân, a rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy’n gweithio ar lefel oruchwyliol neu reolaeth ar hyn o bryd neu’n dymuno gwneud hynny, ac eisiau gwella eu dealltwriaeth o iechyd a diogelwch. Fel goruchwyliwr, mae gennych chi gyfrifoldeb cyfreithiol a moesegol i ofalu am iechyd a diogelwch eich gweithwyr. Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn trafod ystod o bynciau iechyd a diogelwch gan gynnwys: deall gofynion iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle, gofynion cyfreithiol, manteision defnyddio system iechyd a diogelwch a deall y risgiau a’r dulliau o reoli peryglon cyffredin yn y gweithle.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.