BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Dyfarniad Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs undydd gydag asesiad a thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Bydd y cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth sylfaenol er mwyn galluogi mynychwyr i gadw eu hunain a’r rhai sydd o’u cwmpas yn ddiogel mewn amgylchedd gwaith, gan drafod sgiliau pwysig megis: defnyddio offer diogelwch, ymdrin â damweiniau a rheoli risg. Drwy gwblhau’r cwrs, byddwch yn dysgu beth yw eich rôl a’ch cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch yn ogystal â lles yn y gweithle. Byddwch yn dysgu sut i adnabod ac ymdrin â damweiniau yn y gweithle. 

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall Dysgu Bro Ceredigion, Groundwork North Wales a Jimmy Hughes Services Ltd gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.