BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Dyfarniad Lefel 2 Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1)

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
7 Ebrill 2025

Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. 

PA1 = Mae’r cwrs hwn yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr ac mae’n eich caniatáu i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer Cynnyrch Diogelu Planhigion (Approved Code of Practice for Plant Protection Products). 

Noder: Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol, yn ernwedig ar gyfer defnyddio offer gwasgaru plaleiddiaid e.e.  chwistrellydd bŵm wedi’i osod ar gerbyd (PA2) neu offer â llaw (PA6) neu belenni gwlithod (PA4).

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.