BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

E-ddysgu

Digornio Lloi

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 June 2020
Diweddarwyd diwethaf:
9 Mai 2025

Mae gwartheg corniog yn broblem reoli fawr ar ffermydd, ac yn achosi risgiau sylweddol i’r rhai sy’n trin yr anifeiliad a’r stoc eraill. Mae tynnu’r cyrn yn fanteisiol i bobl a gwartheg. Yn y tymor hir, y dull gorau o gynhyrchu gwartheg heb gyrn yw bridio detholus. Llwyddwyd i wneud hyn yn achos sawl brid corniog naturiol, fel gwartheg Henffordd, ond ymhlith llawer o fridiau eraill, yn enwedig gwartheg llaeth, mae canran y stoc digorn yn fach iawn.  Felly, yn y dyfodol rhagweladwy, bydd tynnu cyrn yn parhau yn weithdrefn reoli gyffredin. Mae gwartheg llawn dwf heb gyrn yn haws eu rheoli ac yn fwy diogel. Ni ddylai digornio, h.y. tynnu corn ffurfiedig, fod yn weithdrefn arferol, a dylid osgoi hyn os yn bosibl. Milfeddygon yn unig ddylai ymgymryd â digornio, nid stocmyn.
 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.