BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Deall a defnyddio meddalwedd MTD (Making Tax Digital).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
30 Ebrill 2024

Mae Deall a Defnyddio Meddalwedd MTD (Making Tax Digital) yn gwrs pwrpasol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer tirfeddianwyr, ffermwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd sy’n dymuno cael dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r arferion perthnasol sydd eu hangen i ddefnyddio meddalwedd MTD fel QuickBook a XERO fel y gallant rheoli eu cyfrifon a chynllunio ariannol yn effeithiol yn eu busnes fferm / amaeth. 

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar:
•    Gyfarwyddo dysgwyr â’r llinellau amser MTD diweddaraf sydd ar waith ar gyfer busnesau ac unigolion sy’n trawsnewid i MTD llawn a symud o daenlenni / cyfrifon papur
•    Ystyried ymarferoldeb, costau a manteision defnyddio'r feddalwedd MTD iawn yn eich busnes fferm / amaeth gan roi gwybodaeth ymarferol i ddysgwyr i roi'r feddalwedd MTD angenrheidiol ar waith yn eu busnes fferm / amaeth
•    Crynhoi gwybodaeth ariannol a dyddiadau i'ch helpu i reoli a chynllunio'ch cyllid / cyfrifon yn effeithiol fel y gallwch ariannu, tyfu a datblygu eich busnes gan ddefnyddio'r rhaglen MTD gywir
•    Nodi’r Feddalwedd MTD iawn i'w defnyddio yn eich busnes fferm / amaeth h.y. QuickBooks a Xero
•    Dangos i ddysgwyr sut i ddefnyddio meddalwedd MTD fel: QuickBooks a Xero.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.