BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cyflwyniad i Adfer Mawndiroedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
17 Ionawr 2025

Trosolwg:
Mae pwysigrwydd mawndiroedd yn nhirwedd Cymru wedi cael ei gydnabod fwyfwy.
•    Gall mawndir storio 30 gwaith mwy o garbon na choedwig law trofannol iach.
•    Gall mawndiroedd iach helpu i leihau llifogydd. Maent yn gweithredu fel sbyngau, gan amsugno dŵr yn ystod glawiad uchel ac yn ei ryddhau'n gyson.
•    Mae mawndiroedd yn cefnogi cymunedau prin ac unigryw o fywyd gwyllt, wedi'u haddasu i'r amodau gwlyb a maetholion gwael
•    Mae mawndiroedd yn ateb gwerthfawr sy'n seiliedig ar natur ar gyfer hinsawdd ar dir fferm. 

Nod: 
Galluogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i reoli mawndir ar eu ffermydd yn gynaliadwy.
Darparu'r cwrs:
Bydd y cwrs 1 diwrnod hwn yn cyfuno dysgu dan do gydag ymweliad safle. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan y tîm yn RSPB Cymru, Llyn Efyrnwy, sydd wedi bod yn adfer cynefinoedd mawndir ers sawl degawd. Mae'r gwaith mawndir yn Llyn Efyrnwy wedi'i gyflawni o fewn y system ffermio ac mae'r tîm yn dymuno tynnu sylw at sut y gall adfer fod yn rhan fawr o'r dirwedd a ffermiwyd, wrth hefyd ddarparu ateb sy'n seiliedig ar natur ar gyfer yr hinsawdd.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.