BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cadw Llyfrau, TAW a Gwneud Treth yn Ddigidol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
21 Chwefror 2025

Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae’n hanfodol i’ch busnes eich bod yn rheoli eich cyllid yn gywir. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r lefel ofynnol o wybodaeth ariannol, deall beth fydd eich cyfrifydd ei angen a sut i osgoi problemau ariannol. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar gadw cofnodion ariannol a sut i gofnodi TAW, i sicrhau eich bod yn barod i allu cwblhau’r ffurflenni angenrheidiol. Bydd amser gennych hefyd i edrych ar ffeilio, Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) a beth fydd eich cyfrifydd ei angen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y cwrs yn eich helpu i wybod lle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaethau ariannol ac i ddeall y gwahaniaeth rhwng cyfrifeg treth a chyfrifon rheoli.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall yr holl ddarparwyr isod gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.