BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

BASIS FACTS (Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr Gwrtaith)

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
12 Awst 2025

Trosolwg:

Mae rheoli maetholion yn effeithiol yn rhan hanfodol o gynhyrchu cnydau proffidiol o ansawdd uchel wrth hefyd warchod yr amgylchedd ehangach. Mae Cynllun Ardystio a Hyfforddi FACTS yn ymdrin ag arfer gorau o ran defnyddio gwrtaith a rheoli maetholion planhigion, ac mae’n caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod yn gallu darparu cyngor ar reoli maetholion yn effeithiol sy’n cyfrannu at system cynhyrchu cnydau gynaliadwy wrth reoli’r pwysau o ddiogelu’r amgylchedd ehangach. 
Mae rheoli maetholion bob amser wedi chwarae rhan hanfodol mewn cynhyrchu cnydau, ond yn sgil pwysau amgylcheddol cynyddol a’r angen i gynhyrchu cnydau mewn ffordd fwy effeithlon a chynaliadwy, nid yw deall sut i optimeiddio mewnbynnau cnydau fel tail organig a gwrteithiau gweithgynhyrchu erioed wedi bod yn bwysicach.
O ganlyniad i gwblhau’r cymhwyster FACTS yn llwyddiannus, byddwch yn deall yn iawn rôl gwrtaith mewn cynhyrchu cnydau ac yn cael eich cydnabod fel cynghorydd cymwys. Mae’r gofyniad i ffermwyr gael cyngor ar faeth cnydau gan gynghorydd cymwys FACTS wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau gwarant fferm, gan gynnwys Cynllun Gwarant Fferm y Tractor Coch. Felly mae'n gymhwyster hanfodol ar gyfer nifer o swyddi o fewn y diwydiant.


Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn:

Mae Cynllun Ardystio FACTS wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sydd am ddatblygu cymhwysedd mewn darparu cyngor ar wrtaith gan roi sylw dyledus i ddiogelu’r amgylchedd, gan gynnwys cynghorwyr, cynrychiolwyr gwneuthurwyr, ffermwyr a rheolwyr fferm sy’n ymwneud â chynhyrchu cnydau a rheoli fferm yn ehangach. Mae’r cwrs FACTS nid yn unig yn ymdrin â chynhyrchu cnydau âr ond hefyd yn edrych ar storio a defnyddio tail organig, cynhyrchu cnydau porthiant a rheoli glaswelltir, felly mae’n gymhwyster hynod fuddiol i’r rhai sy’n gweithio ar ffermydd cymysg. Bydd y Dystysgrif FACTS yn amhrisiadwy i reolwyr fferm ac agronomegwyr sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar wasgaru gwrtaith a chylchdroi cnydau yn ddyddiol. Bydd deall sut i reoli mewnbynnau maetholion yn effeithiol nid yn unig yn gwella proffidioldeb y fferm ond bydd hefyd yn sicrhau bod y fferm yn gweithredu gan ddilyn yr arferion gorau presennol a bodloni gofynion Deddfwriaeth y DU. 

Cynnwys y Cwrs:

  • Y pridd mewn perthynas â maeth planhigion

  • Ffynonellau maetholion organig

  • Natur a phriodweddau gwrteithiau

  • Maetholion cnydau mewn planhigion a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar gynllunio rheoli maetholion

  • Defnydd o wrtaith ar y prif grwpiau cnydau yn y DU

  • Cludo, storio a thrin gwrtaith

  • Chwalu gwrtaith

  • Cod Ymarfer Amaethyddol Da a gofynion cyfreithiol a gofynion eraill i warchod yr amgylchedd

Gofynion Mynediad:

Mae'r cwrs yn rhagdybio lefel sylfaenol o wybodaeth agronomeg, felly argymhellir yn gryf bod gennych ddwy flynedd o brofiad mewn agronomeg ar y fferm.

Noder bod hwn yn gwrs dwys iawn. Sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r darparwr i drafod manylion y cwrs ac i wirio ei argaeledd. Diolch.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.