Cwrs hyfforddiant undydd ymarferol gyda thystysgrif hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae ŵyna yn sgil sylfaenol hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda mamogiaid. 

Bydd cwrs Technegau Ŵyna yn eich cynorthwyo i wybod beth allwch chi ei wneud eich hun a beth sydd angen sylw gan filfeddyg arbenigol. Mae’r cwrs wedi cael ei lunio i adnabod mamogiaid sy’n cael trafferthion ŵyna, archwilio’r famog, ŵyna neu ofyn am gymorth. Byddwch yn derbyn gwybodaeth gefndirol er mwyn eich paratoi ac adnabod arwyddion ŵyna. Byddwn yn defnyddio efelychwr ŵyna ar gyfer y gweithgareddau ymarferol. Bydd y sesiynau’n ymdrin â pharatoi ar gyfer ŵyna, adnabod arwyddion ŵyna, genedigaeth normal, ŵyna, ymdrin â genedigaethau annormal, a gofal ar ôl ŵyna.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Tryc Codi Gwrthbwyso
Hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch
Ambiwlans Sant Ioan - Cymorth Cyntaf i Ffermwyr
Dangos dealltwriaeth o sgiliau trin a chydnabyddiaeth gyffredinol
Cwrs Drôn Amaethyddol - Tystysgrif Cymhwysedd A2
Tystysgrif Cymhwysedd A2 Ar-lein Tystysgrif yr Awdurdod Hedfan