Fferm Longlands, North Row, Redwick, Magwyr

Prosiect Safle Ffocws: Cynllun Rheoli Mastitis

Nodau’r Prosiect:

  • Mae Mastitis yn parhau i fod yn broblem iechyd bwysig ar ffermydd llaeth ac mae’n cael effaith negyddol ar iechyd a chynhyrchiant buchod. Mae angen gweithredu offer newydd a defnyddio dull sy’n cwmpasu’r fferm gyfan i leihau effaith mastitis ar les a chynhyrchiant.
  • Nod y prosiect hwn oedd cyflwyno Cynllun Rheoli Mastitis Cenedlaethol AHDB Llaeth i’r fferm yn ogystal ag adnoddd Patrwm Mastitis newydd yr AHDB. Mae’r Adnodd Patrwm Mastitis yn cynnig dull hollol awtomataidd o asesu’r patrymau heintiadau mastitis amlwg ar y fferm, gan ddefnyddio cyfrif celloedd somatig a chofnodion clinigol mastitis. Mae’n cynhyrchu adroddiad patrwm mastitis sy’n gadael i ffermwyr a milfeddygon asesu a blaenoriaethu meysydd rheoli allweddol ac o bosibl i ganfod problemau sy’n dod i’r amlwg yn y cyfnod sych a/neu’r cyfnod llaetha. Bydd y cynllun rheoli mastitis yn amlygu’r meysydd lle mae mwyaf o risg o fastitis yn y fuches odro ac yn rhoi strategaeth reoli i leihau achosion mastitis clinigol newydd a’r defnydd dilynol o wrthfiotig ar draws y fuches odro.
  • Bydd y prosiect hwn yn helpu i ymdrin â’r materion sy’n ymwneud â mastitis ar y fferm yn ogystal â lleihau’r cyfrif celloedd somatig ar draws y fuches. Yn ychwanegol, bydd y prosiect yn helpu i leihau defnydd y fferm o wrthfiotig trwy ddull wedi ei dargedu yn well.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Garthmyn Isaf
Huw Owen, Garthmyn Isaf, Maenan, Llanrwst Prosiect Safle Ffocws
Hendre Arddwyfaen
Hendre Arddwyfaen, Ty Nant, Corwen, Conwy Prosiect Safle Ffocws
Fferm Lower Eyton
Fferm Lower Eyton, Eyton, Wrecsam Prosiect Safle Ffocws