Mae ffermwyr yn adnabod eu tir yn well nag unrhyw un - ond gall cadw golwg ar y bywyd gwyllt sy'n ymweld â'u ffermydd fod yn her. Mae arolygon adar traddodiadol yn gofyn am amser a gwybodaeth arbenigol, felly mae prosiect newydd yn troi at dechnoleg arloesol, wedi'i grymuso gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) i helpu.

Yn y bennod hon, rydym yn edrych ar sut mae monitorau acwstig Chirrup yn cael eu defnyddio ar draws pedair fferm ar ddeg yng Nghymru i ddal ac adnabod cân yr adar yn awtomatig yn ystod côr y wawr. Mae'r dyfeisiau bach hyn, sy'n cael eu pweru gan fatri, yn recordio'n ddyddiol dros gyfnod o 2-3 wythnos, gan roi cipolwg amhrisiadwy ar yr adar sy'n bresennol ar ystod eang o ffermydd, o ffermydd defaid ucheldir i unedau llaeth cynhyrchiol ar dir isel.

Mae Lynfa Davies, Swyddog Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, yn ymweld â Rhys Davies o Moor Farm yn Nhreffynnon i ddarganfod pa rywogaethau sy'n ffynnu ar ei fferm laeth yng Ngogledd Cymru. Mae'r adaregydd Keith Offord yn ymuno â nhw, sy'n helpu i ddadansoddi canfyddiadau calonogol y prosiect a'r hyn maen nhw'n ei ddatgelu am fioamrywiaeth ar ffermydd gweithredol.

Gwrandewch ar y bennod hon er mwyn dysgu sut mae technoleg, ffermio a chadwraeth yn dod at ei gilydd i ddeall a chefnogi poblogaethau adar Cymru yn well.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 129 - Ffermio'n ddoethach, nid yn galetach: Llwyddiant Wallog i Arbed Dŵr
Yn y bennod hon o Glust i’r Ddaear, mae'r cyflwynydd Ifan Jones
Rhifyn 128- Mantais Amaethgoedwigaeth – lloches, pridd a da byw
Gwrandewch i ddarganfod pam mae mwy a mwy o ffermwyr yn plannu
Rhifyn 126 - Ffliw Adar a goleuadau sied ddofednod
Croeso i gyfle arall i ddal i fyny ar weminar Cyswllt Ffermio a