BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Gwerthuso ffynonellau ffosffad mewn cnydau grawn a dyfir gartref mewn perthynas â chydbwysedd maethol y fferm a’r ôl troed amgylcheddol - Adroddiad Terfynol

Canlyniadau allweddol: 

  • Darparodd gwrtaith ffosffad gwarchodedig y defnydd mwyaf effeithlon o ffosffad, a gadarnhawyd gan ddadansoddiad o gnydau grawn a dadansoddiad meinwe (gwelliant o 5–10% yn y cymeriant o ffosffad a sinc [Zn] o’i gymharu â’r gwrtaith cyfatebol safonol). 
  • Roedd ffosfforws (P) a Zn y grawn yn gyson uwch yn yr ardal a gafodd ei thrin â ffosffad gwarchodedig, gan ddangos gwell trosglwyddiad o faetholion o’r pridd i’r grawn a gynaeafwyd (protein y grawn – 1.8% yn erbyn 1.68%). 
  • Mae perfformiad y gwrtaith ffosffad gwarchodedig yn awgrymu buddion agronomegol ac effeithlonrwydd clir lle mae priddoedd yn gymedrol o ran y mynegai P ac angen gwell effeithlonrwydd o ran defnyddio maetholion. Amcangyfrifwyd bod yr elw ar fuddsoddiad (ROI) yn £35–£45/ha trwy’r defnydd mwy effeithlon o faetholion. 
  • Gallai’r buddion amgylcheddol cysylltiedig gynnwys llai o risg o gloi ffosffad a llai o golli i gyrsiau dŵr. 

Cefndir: 

Mae Dylan Jones yn rhedeg mentrau biff, defaid a thir âr ar ei fferm ger Porthaethwy, Ynys Môn. Bu’n gweithio ers sawl blwyddyn yn datblygu systemau cynhyrchu sy’n isel o ran carbon, a hynny wrth gyflawni ei nodau amgylcheddol hefyd. Mae’r grawnfwydydd a dyfir ar fferm Castellior yn rhan annatod o’r fenter biff, gan ddileu’r angen i fewnforio P trwy borthiant a brynir. Mae Dylan a’i dîm wedi cymryd camau mawr tuag at yr amcanion hyn; maent bellach, felly, yn edrych ar gyfleoedd eraill i wneud mân welliannau. 

Diben y gwaith: 

Er mwyn ymchwilio a fyddai rhoi ffosffad gwarchodedig AVAIL mewn gwrtaith cyfansawdd ar gnwd Haidd y Gwanwyn yn arwain at - 

  • Gnydau yn sefydlu’n well 
  • Mwy o gnwd 
  • Gwell enillion yn gyffredinol ar wrteithiau ffosffad

 

Beth wnaethom ni? 

Sefydlwyd tair llain brawf, gyda phob llain wedi’i pharatoi â 25–30 tunnell/ha o dail buarth a 2.5 tunnell/ha o galch. Roedd y lleiniau fel a ganlyn: 

  • Llain 1 – gwrtaith cyfansawdd safonol (Yara 20:10:10) a thail buarth 
  • Llain 2 – gwrtaith ffosffad gwarchodedig (Origin OEP 20:10:10) a thail buarth 
  • Llain reoli – dim gwrtaith, dim ond tail buarth 

Dadansoddwyd y pridd a’r tail, lle y bo’n briodol, a chasglwyd cofnodion yn ymwneud â’r holl fewnbynnau, perfformiad y cnydau, a maint y cynnyrch. Cynhaliwyd dadansoddiad meinwe ar adegau penodol i asesu faint o faetholion roedd y planhigyn yn eu cymryd ac fel dangosydd o argaeledd maetholion yn y pridd. Defnyddiwyd porthiant deiliach (Talisman) ar yr holl driniaethau yn dilyn canlyniadau’r dadansoddiad meinwe yng nghanol y tymor, a ddangosodd ostyngiad mewn Mg a Sylffwr (S).  

Dadansoddwyd y cnydau grawn hefyd i bennu cynnwys maethol y cnwd terfynol a gynaeafwyd. Cynhaliwyd asesiadau o iechyd y pridd, a chynhyrchwyd cardiau sgorio ar gyfer pob plot. Cynhaliwyd asesiad o gydbwysedd P ar y fferm gyfan hefyd fel rhan o’r prosiect. 

Canlyniadau: 

  • Dadansoddiad o’r pridd (Ebrill 2025): Roedd pob llain o fewn yr ystod ar gyfer cynnal cnydau. Roedd y plot rheoli yn cynnwys y mwyaf o Botasiwm (K) a deunydd organig (OM); roedd gan Llain 2 broffil cytbwys gyda mwy o Cu ac S ar gael nag yn Llain 1. 
  • Dadansoddiad meinwe (Mai 2025): Dangosodd Llain 2 fuddion cynnar o ran cymeriant Nitrogen (N) (2.9%) a P (0.34%) dros Lain 1 (N - 2.6%, P - 0.31%). 
  • Dadansoddiad meinwe (Mehefin – cyn rhoi porthiant deiliog): Llain 2 a gynhaliodd y cymeriant cryfaf o N (3.1%) a Zn (32 ppm). Roedd y llain reoli yn uwch mewn K, Mg ac S. 
  • Talisman: Ym mhob llain, roedd gan y canopi well lliw a chadwyd y dail yn well; gwelwyd y budd gweledol mwyaf ym Mhlot 2. 
  • Dadansoddiad o’r cnydau grawn: Roedd cnwd grawn Llain 2 yn cynnwys 0.36% P, 30 ppm o Zn, ac 1.80% N – i gyd yn uwch na Llain 1, gan ddangos gwell effeithlonrwydd o ran maetholion a phrotein. 
  • Effaith economaidd ac amgylcheddol: Llai o botensial i golli ffosffad, llai o risg o ddiffyg, ac amcangyfrif o elw ar fuddsoddiad o £35–45/ha yn seiliedig ar well effeithlonrwydd yn y defnydd o faetholion. 
  • Cyffredinol: Roedd y gwrtaith ffosffad gwarchodedig yn cynnig budd cyson o ran cynnyrch ac effeithlonrwydd maetholion, gan gadarnhau budd cynhyrchion ffosffad gwarchodedig o dan briddoedd ysgafn y rhanbarth.

 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm? 

  1. Profwch P, K ac Mg y pridd cyn dewis gwrtaith – targedwch Fynegai 2 ar gyfer Haidd y Gwanwyn. 
  1. Defnyddiwch wrteithiau ffosffad gwarchodedig lle mae priddoedd yn isel neu’n dueddol o gloi. 
  1. Cymerwch sampl meinwe yng Nghyfnod Twf (GS) 23–25 a GS 31–32 i fonitro cydbwysedd maetholion. 
  1. Rhowch borthiant deiliach os yw lefelau’r Mg a’r S yn gostwng islaw’r ystod ar gyfer cynnal cnydau. 
  1. Cofnodwch ddadansoddiad o faetholion y cnydau grawn i asesu perfformiad y pridd a’r gwrtaith yn yr hirdymor.  

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.