Canlyniadau allweddol:
- Darparodd gwrtaith ffosffad gwarchodedig y defnydd mwyaf effeithlon o ffosffad, a gadarnhawyd gan ddadansoddiad o gnydau grawn a dadansoddiad meinwe (gwelliant o 5–10% yn y cymeriant o ffosffad a sinc [Zn] o’i gymharu â’r gwrtaith cyfatebol safonol).
- Roedd ffosfforws (P) a Zn y grawn yn gyson uwch yn yr ardal a gafodd ei thrin â ffosffad gwarchodedig, gan ddangos gwell trosglwyddiad o faetholion o’r pridd i’r grawn a gynaeafwyd (protein y grawn – 1.8% yn erbyn 1.68%).
- Mae perfformiad y gwrtaith ffosffad gwarchodedig yn awgrymu buddion agronomegol ac effeithlonrwydd clir lle mae priddoedd yn gymedrol o ran y mynegai P ac angen gwell effeithlonrwydd o ran defnyddio maetholion. Amcangyfrifwyd bod yr elw ar fuddsoddiad (ROI) yn £35–£45/ha trwy’r defnydd mwy effeithlon o faetholion.
- Gallai’r buddion amgylcheddol cysylltiedig gynnwys llai o risg o gloi ffosffad a llai o golli i gyrsiau dŵr.
Cefndir:
Mae Dylan Jones yn rhedeg mentrau biff, defaid a thir âr ar ei fferm ger Porthaethwy, Ynys Môn. Bu’n gweithio ers sawl blwyddyn yn datblygu systemau cynhyrchu sy’n isel o ran carbon, a hynny wrth gyflawni ei nodau amgylcheddol hefyd. Mae’r grawnfwydydd a dyfir ar fferm Castellior yn rhan annatod o’r fenter biff, gan ddileu’r angen i fewnforio P trwy borthiant a brynir. Mae Dylan a’i dîm wedi cymryd camau mawr tuag at yr amcanion hyn; maent bellach, felly, yn edrych ar gyfleoedd eraill i wneud mân welliannau.
Diben y gwaith:
Er mwyn ymchwilio a fyddai rhoi ffosffad gwarchodedig AVAIL mewn gwrtaith cyfansawdd ar gnwd Haidd y Gwanwyn yn arwain at -
- Gnydau yn sefydlu’n well
- Mwy o gnwd
- Gwell enillion yn gyffredinol ar wrteithiau ffosffad
Beth wnaethom ni?
Sefydlwyd tair llain brawf, gyda phob llain wedi’i pharatoi â 25–30 tunnell/ha o dail buarth a 2.5 tunnell/ha o galch. Roedd y lleiniau fel a ganlyn:
- Llain 1 – gwrtaith cyfansawdd safonol (Yara 20:10:10) a thail buarth
- Llain 2 – gwrtaith ffosffad gwarchodedig (Origin OEP 20:10:10) a thail buarth
- Llain reoli – dim gwrtaith, dim ond tail buarth
Dadansoddwyd y pridd a’r tail, lle y bo’n briodol, a chasglwyd cofnodion yn ymwneud â’r holl fewnbynnau, perfformiad y cnydau, a maint y cynnyrch. Cynhaliwyd dadansoddiad meinwe ar adegau penodol i asesu faint o faetholion roedd y planhigyn yn eu cymryd ac fel dangosydd o argaeledd maetholion yn y pridd. Defnyddiwyd porthiant deiliach (Talisman) ar yr holl driniaethau yn dilyn canlyniadau’r dadansoddiad meinwe yng nghanol y tymor, a ddangosodd ostyngiad mewn Mg a Sylffwr (S).
Dadansoddwyd y cnydau grawn hefyd i bennu cynnwys maethol y cnwd terfynol a gynaeafwyd. Cynhaliwyd asesiadau o iechyd y pridd, a chynhyrchwyd cardiau sgorio ar gyfer pob plot. Cynhaliwyd asesiad o gydbwysedd P ar y fferm gyfan hefyd fel rhan o’r prosiect.
Canlyniadau:
- Dadansoddiad o’r pridd (Ebrill 2025): Roedd pob llain o fewn yr ystod ar gyfer cynnal cnydau. Roedd y plot rheoli yn cynnwys y mwyaf o Botasiwm (K) a deunydd organig (OM); roedd gan Llain 2 broffil cytbwys gyda mwy o Cu ac S ar gael nag yn Llain 1.
- Dadansoddiad meinwe (Mai 2025): Dangosodd Llain 2 fuddion cynnar o ran cymeriant Nitrogen (N) (2.9%) a P (0.34%) dros Lain 1 (N - 2.6%, P - 0.31%).
- Dadansoddiad meinwe (Mehefin – cyn rhoi porthiant deiliog): Llain 2 a gynhaliodd y cymeriant cryfaf o N (3.1%) a Zn (32 ppm). Roedd y llain reoli yn uwch mewn K, Mg ac S.
- Talisman: Ym mhob llain, roedd gan y canopi well lliw a chadwyd y dail yn well; gwelwyd y budd gweledol mwyaf ym Mhlot 2.
- Dadansoddiad o’r cnydau grawn: Roedd cnwd grawn Llain 2 yn cynnwys 0.36% P, 30 ppm o Zn, ac 1.80% N – i gyd yn uwch na Llain 1, gan ddangos gwell effeithlonrwydd o ran maetholion a phrotein.
- Effaith economaidd ac amgylcheddol: Llai o botensial i golli ffosffad, llai o risg o ddiffyg, ac amcangyfrif o elw ar fuddsoddiad o £35–45/ha yn seiliedig ar well effeithlonrwydd yn y defnydd o faetholion.
- Cyffredinol: Roedd y gwrtaith ffosffad gwarchodedig yn cynnig budd cyson o ran cynnyrch ac effeithlonrwydd maetholion, gan gadarnhau budd cynhyrchion ffosffad gwarchodedig o dan briddoedd ysgafn y rhanbarth.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm?
- Profwch P, K ac Mg y pridd cyn dewis gwrtaith – targedwch Fynegai 2 ar gyfer Haidd y Gwanwyn.
- Defnyddiwch wrteithiau ffosffad gwarchodedig lle mae priddoedd yn isel neu’n dueddol o gloi.
- Cymerwch sampl meinwe yng Nghyfnod Twf (GS) 23–25 a GS 31–32 i fonitro cydbwysedd maetholion.
- Rhowch borthiant deiliach os yw lefelau’r Mg a’r S yn gostwng islaw’r ystod ar gyfer cynnal cnydau.
- Cofnodwch ddadansoddiad o faetholion y cnydau grawn i asesu perfformiad y pridd a’r gwrtaith yn yr hirdymor.