Treial pori maenor Buckland a datblygu system fferm
Ffermwr: Huw Jones (Wholehouse Farm)
Swyddog Cyswllt Ffermio: Lynfa Davies
Arweinydd Technegol: James Daniel (Precision Grazing)
Arweinydd yr Arolwg Llystyfiant: Helen Barnes
Dyddiadau: Mai–Hydref 2025

1. Cyflwyniad
Mae Wholehouse Farm yn datblygu system gwartheg bîff sugno heb lawer o fewnbwn er mwyn defnyddio hawliau pori ar Gomin Maenor Buckland. Mae 10 o heffrod Belted Galloway cyflo (24 mis oed) yn ffurfio’r fuches gnewyllyn. Mae’r fenter hon yn cefnogi amcanion rheoli cynefin o ran lleihau rhedyn, gwella strwythur llystyfiant a lleihau llwyth tân, a hynny wrth gryfhau cydnerthedd y busnes a chreu potensial i gyflenwi cig eidion i fenter priodasau a digwyddiadau’r teulu.
Mae’r system yn seiliedig ar wartheg sy’n lloia yn y gwanwyn ac yn paru ar dir is ym Mherthllwyd Fawr, cyn symud cael eu symud i bori ar Dir Comin Maenor Buckland rhwng mis Mai a mis Tachwedd. Mae’r gwartheg yn dychwelyd i bori glaswellt gohiriedig a byrnau ar dir Berthllwyd Fawr nes eu bod yn cael eu symud i Wholehouse ym mis Rhagfyr i’w rhoi dan do ac i ddiddyfnu’r lloi.
Mae’r gwartheg wedi’u cyfarparu â choleri rhithffensio GPS Monil o dan Brosiect Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio. Mae’r coleri hyn yn caniatáu rheoli o bell, monitro lle mae’r gwartheg yn pori, a rheoli pori mewn ffordd addasol.
Ochr yn ochr â’r treial pori technegol gyda chymorth James Daniel o Precision Grazing, cynhaliwyd arolwg llystyfiant ecolegol ‘cyn ac ar ôl pori’ gan Helen Barnes gan ddefnyddio cerdyn sgôr cyflwr cynefin Tir Comin Cymru yr EFNCP.
2. Cyd-destun y fferm a sylfaen tir
Wholehouse (Fferm Gartref)
- Y canolbwynt ar gyfer lleoliad priodasau/digwyddiadau’r teulu, allfa bremiwm bosibl ar gyfer gwartheg wedi’u pesgi.
Berthllwyd Fawr (20 munud o Wholehouse)
- 106 ha o dir pori effeithiol (cyfanswm o 123 ha gyda chynefin 17 ha).
- Yn darparu ardal baru a glaswellt gohiriedig / byrnau yn y gaeaf i wartheg.
Comin Maenor Buckland
- Mae gan y fferm hawliau i dir mynydd helaeth ac mae’n bwriadu defnyddio’r rhain ar gyfer pori cadwraeth.
- Heb ddigon o dir pori ar hyn o bryd, gyda rhedyn a gwellt y gweunydd yn drech.
- Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chominwyr yn annog ailgyflwyno gwartheg.
3. Amcanion y system
1. Adfer pori gan wartheg ar Gomin Maenor Buckland.
2. Datblygu buches sugno weithredol nad yw’n llafurddwys.
3. Lloia yn y gwanwyn.
4. Paru buchod ar dir caeedig.
5. Integreiddio mentrau gwartheg a defaid.
6. Cyflenwi cig eidion i’r busnes priodasau/digwyddiadau.
4. Calendr digwyddiadau blynyddol
Cyfnod | Gweithgaredd | Lleoliad |
Canol Ionawr – Mawrth | Lloia (dan do/awyr agored yn dibynnu ar y tywydd). Canol Mawrth | Wholehouse |
Ebrill – Mehefin | Tarw o 20 Ebrill am gyfnod o 8 wythnos | Berthllwyd Fawr |
Mehefin – Tachwedd | Pori ar yr ucheldir gyda lloi wrth eu traed. Y buchod yn gwisgo coleri rhithffensio | Comin Maenor Buckland |
Tachwedd – Rhagfyr | Pori glaswellt gohiriedig a byrnau | Berthllwyd Fawr |
Ionawr | Diddyfnu a lletya (lloi) | Wholehouse |
Gaeaf | Rhoi gwartheg a lloi dan do | Wholehouse |
Gwanwyn | Lloi sydd wedi’u diddyfnu yn pori/dan do i’w magu fel gwartheg tew neu stôr | Wholehouse |
5. Dadansoddi porthiant a mwynau
Dangosodd sampl o borfa ffres a gasglwyd ar 10 Mehefin 2025 o Faenor Buckland y canlynol:
Gwerthoedd maethol
- Egni Metaboladwy (ME): 9.3 MJ/kg DM (ymylol ar gyfer heffrod cyflo)
- Protein Crai (CP): 11% (ymylol ar gyfer heffrod cyflo; annigonol ar gyfer buchod â lloi)
Mae’n bosibl y bydd y sampl hon a ddewiswyd â llaw yn tanamcangyfrif yr hyn y mae gwartheg pori yn ei ddewis. Serch hynny, mae monitro sgôr cyflwr y corff (BCS) yn fanwl yn hanfodol.
Mwynau
- Calsiwm, magnesiwm: islaw’r lefelau a argymhellir
- Ffosfforws: Digonol o drwch y blewyn
- Seleniwm: Diffygiol i bob pwrpas
- Copr: Isel, gyda molybdenwm uchel yn lleihau argaeledd
Dylid ymgynghori â milfeddygon ynghylch profion gwaed ac atchwanegiadau mwynau priodol.
6. Rheoli pori ar y comin
Nododd yr arolwg o blanhigion gan yr ecolegydd, Helen Barnes, ym mis Mehefin 2025, fod y tir yn cael ei danbori, y rhedyn yn ehangu, gwellt y gweunydd yn dominyddu, a strwythur y corlwyni yn llai. Mae rheoli rhedyn gan ddefnyddio da byw fel arfer yn gofyn am gryn dipyn o sathru, am gyfnod byr, nad yw’n addas ar gyfer buchod â lloi.
Ymhlith dulliau eraill â llai o risg mae:
- Gosod halen/llyfwr
- Gosod dŵr mewn mannau strategol (symudol os yn bosibl)
- Defnyddio gwahanol ddosbarthiadau o stoc (e.e. bustych neu heffrod sych) os oes angen sathru’r tir yn drymach.
Ymhlith yr argymhellion am strategaeth pori ucheldir mae:
- Nodi a mapio ffynonellau dŵr dibynadwy
- Dyrannu rhithbadogau mawr (>25ha) sy’n cynnwys o leiaf un ffynhonnell ddŵr
- Anelu at ddefnyddio 30–50% o’r biomas poriadwy
- Gwirio’r cyflenwad dŵr yn wythnosol
- Monitro’r BCS bob mis.
7. Pennu cyllideb ar gyfer porthiant y gaeaf
2025–26: 10 heffer gyflo
Porthiant ar gael:
- Pori byrnau: 20 o fyrnau
4,320 kg o DM
- Porfa ohiriedig (4 ha): 4,800 kg o DM
Cyfanswm: 9,120 kg o DM
Gofyniad: 140 kg o DM/dydd
Hyd: 65 diwrnod
Dyraniad: 1 bêl bob 3 diwrnod
2026–27: 10 buwch â lloi (60 diwrnod)
Gofyniad:
- 10 pâr (buwch a llo)
180 kg o DM/dydd
10,800 kg o DM (60 diwrnod)
Ar gael
- Porfa ohiriedig: 4,800 kg o DM
Diffyg: 6,000 kg o DM
Angen 30 o fyrnau (216 kg o DM y gellir ei ddefnyddio fesul bêl)
Dyraniad: 1 bwrn bob 2 ddiwrnod
8. Gofynion dŵr
Heffrod (450 kg)
- Haf: 450 – 550 L/dydd (grŵp)
- Gaeaf: 200 – 300 L/dydd
Buchod gyda lloi (550 kg + llo)
- Haf: 600 – 800 L/dydd
- Gaeaf: 400 – 500 L/dydd
Disgwylir i ffynonellau dŵr naturiol ar y tir comin a’r fferm fodloni’r gofynion.
9. Arolwg o’r llystyfiant (asesiad ‘cyn ac ar ôl pori’)
Arweinydd yr arolwg: Helen Barnes (Cerdyn Sgorio Tir Comin Cymru yr EFNCP)
Dyddiadau’r arolwg:
- Cyn pori: 11 Mehefin 2025
- Ar ôl pori am 3 mis: 18 Medi 2025
Dull
- Dewiswyd chwe phwynt o’r arolwg i gynrychioli amrywioldeb cynefin.
- Asesodd y cerdyn sgôr yr amrywiaeth o blanhigion, strwythur y llystyfiant, corlwyni, migwyn, coed/llwyni, rhywogaethau ymledol ac effeithiau negyddol.
- Tynnwyd lluniau i gyfeirio atynt a lleoliadau GPS ar gyfer ailadroddadwyedd.
- Canolbwyntiodd yr arolwg ‘ar ôl pori’ ar strwythur y llystyfiant, yr unig elfen sy’n debygol o newid yn sylweddol mewn un tymor.
Canlyniadau a chasgliadau
Fe wnaeth cyflwr y llystyfiant wella ar gyfer bioamrywiaeth ar ôl i’r tir gael ei bori yn ystod haf 2025. Er na ellir diystyru ffactorau allanol a bod angen cyfnod astudio hwy, dengys tystiolaeth ragarweiniol fod pori gan wartheg wedi cael effaith fuddiol ar ansawdd y cynefin.
10. Crynodeb technegol a llystyfiant a’r camau nesaf
Mae’r adroddiadau technegol ac ecolegol cyfun yn darparu dull strwythuredig o ailgyflwyno gwartheg i Gomin Maenor Buckland.
Prif Bwyntiau:
- Mae pori gan wartheg yn dangos effeithiau cadarnhaol cynnar ar gynefin.
- Mae ansawdd y porthiant yn ymylol, ac mae angen monitro’r cyflwr a’r cymeriant yn ofalus.
- Mae cyllidebu porthiant y gaeaf yn awgrymu bod gaeafu yn yr awyr agored ar laswellt gohiriedig a byrnau yn hyfyw.
- Er mwyn rheoli rhedyn, efallai fod angen dosbarthiadau ychwanegol neu wahanol o stoc.
- Bydd y gyfradd stocio orau yn dibynnu nid yn unig ar gyflenwad y porthiant ond ar lety yn ystod y gaeaf, y cyflenwad o fyrnau, a’r capasiti gwerthu uniongyrchol.
Camau gweithredu a argymhellir:
- Sgôr cyflwr y corff ar gyfer heffrod sy’n dychwelyd o’r tir comin – targed o >3 (4 yn ddelfrydol).
- Trafodwch y dadansoddiad o fwynau gyda’r milfeddyg; ystyriwch brofion gwaed.
- Adolygwch y calendr symud gwartheg, tai a logisteg lloia.
- Adolygwch ganlyniadau arolygon bioamrywiaeth yn y dyfodol i olrhain effeithiau ar gynefin.
- Parhewch i fapio a monitro ffynonellau dŵr.
- Datblygwch elw gros dros dro ar gyfer y farchnad ‘cyflenwi cig eidion yn uniongyrchol’.
11. Meddyliau a chyfraniadau o safbwynt Wholehouse Farm
Pam wnaethom ni ymgeisio am y Cyllid Arbrofi?
Cafodd ein penderfyniad i ymgeisio am Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ei ysgogi gan ddau angen a ddaeth i’r amlwg ar yr un pryd ar ein fferm:
- I ddod â gwartheg yn ôl i Gomin Maenor Buckland, lle roedd yr arfer o bori wedi chwalu i bob pwrpas a rhedyn wedi meddiannu’r tir.
- I adeiladu buches sugno adfywiol, heb lawer o fewnbynnau, sy’n cyd-fynd â chyfeiriad dyfodol fferm a busnes digwyddiadau ein teulu.
Roeddem eisiau deall a allai gwartheg ffynnu ar y dirwedd hon; a oedd technoleg rithffensio yn ddigon dibynadwy ar gyfer pori ar yr ucheldir; ac a allai’r math yma o bori sicrhau gwelliannau amlwg i gynefin o fewn un tymor.
Rhoddodd y Cyllid Arbrofi y strwythur, yr hyder a’r gefnogaeth arbenigol i ni i brofi rhywbeth na fyddem wedi gallu rhoi cynnig arno ar ein pennau ein hunain.
Beth oedd y dechnoleg rithffensio yn ei olygu i ni?
Nid oeddem erioed wedi defnyddio coleri GPS o’r blaen, a heb y dechnoleg hon, ni fyddai’r gwartheg wedi gallu pori’r tir comin yn ddiogel nac yn ymarferol.
Ein meddyliau:
- Rhoddodd y coleri hyder i ni droi gwartheg allan i ucheldir mawr, anghysbell a garw lle mae ffensys traddodiadol yn annibynadwy neu’n amhosibl.
- Arbedwyd llawer iawn o amser.
- Fe wnaethom ddysgu’n gyflym sut mae gwartheg yn ymateb i rithffiniau. Fe wnaeth hyn feithrin ein sgiliau a’n paratoi ar gyfer pori addasol yn y dyfodol ar yr ucheldir a’r tir cartref.
- Helpodd y treial ni i ddeall y cyfyngiadau o ran yr angen am flociau mawr yn hytrach na chylchdroadau tyn a phwysigrwydd lleoli dŵr.
At ei gilydd, mae rhithffensio wedi agor tir nad oeddem yn gallu ei ddefnyddio’n effeithiol.
Yr effaith ar ein busnes:
Daeth y treial ar adeg bwysig i’n teulu wrth i ni barhau i adeiladu fferm arallgyfeiriedig sy’n canolbwyntio ar:
- Dda byw adfywiol
- Twristiaeth a digwyddiadau
- Adfer cynefin yn yr hirdymor
- Cael y teulu i fod yn rhan o ffermio a rheoli tir
Cefnogodd y prosiect ni i:
- Adfer buches sugno â hyder
- Cysylltu ein brand bocs cig arfaethedig a’n cyflenwad o gig eidion, sy’n mynd yn syth i’r lleoliad, â system bori sy’n cyd-fynd â’n hethos
- Pori’r tir ffridd yn fwy effeithiol a helpu i leihau’r baich llyngyr yn y ddiadell ddefaid
- Gwella’r broses o gyllidebu porthiant y fferm gyfan a chynllunio ar gyfer y gaeaf
- Dechrau adeiladu system wartheg sy’n gweithio o fewn ein gallu a’n bywyd teuluol
Mae’r treial hwn wedi dod yn garreg sylfaen ein strategaeth wartheg hirdymor.
Yr hyn a ddysgom am y tir:
Roedd gweld Tir Comin Maenor Buckland drwy lens dechnegol (James Daniel) ac un ecolegol (Helen Barnes) yn un o rannau mwyaf gwerthfawr y prosiect.
Ein meddyliau:
- Cafodd y gwartheg effaith weladwy ar strwythur y tir, gyda llwybrau cliriach, porfa o lai o uchder, ac arwyddion o chwalu clystyrau gwellt y gweunydd.
- Mae rheoli rhedyn yn gofyn am fwy o ddwysedd nag y gall buchod â lloi ei ddarparu’n ddiogel; rhywbeth y gallwn bellach gynllunio ar ei gyfer gan ddefnyddio gwahanol ddosbarthiadau o stoc yn y dyfodol.
- Rhoddodd y mapio dŵr a’r asesiadau o blanhigion ddarlun llawer cliriach i ni o sut mae’r ucheldir yn gweithio a beth sy’n bosibl.
Rydym bellach yn teimlo’n llawer mwy cymwys a gwybodus ynglŷn â rheoli’r dirwedd hon.
Yr hyn a ddysgom am ein gwartheg a’n system:
Fel cynhyrchwyr gwartheg sugno am y tro cyntaf, bu’n rhaid i ni ddysgu llawer iawn, ac fe wnaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ein cefnogi’n broffesiynol ac yn ymarferol.
Safbwyntiau allweddol:
- Rhaid gwirio BSC yr heffrod yn barhaus, nid yn achlysurol
- Mae problemau mwynol yn real ac mae angen eu rheoli’n rhagweithiol. Rhoddwyd bolws mwynau i’r buchod
- Mae pori ar ucheldir yn gweithio orau gyda gwartheg tawel, heini sydd o anian dda ac sy’n gallu symud yn iawn
- Mae pori glaswellt gohiriedig a byrnau yn opsiwn hyfyw wrth aeafu gwartheg yn yr awyr agored, gan leihau’r pwysau ar ein hadeiladau
- Mae amseru lloia a’r adeg y cyflwynir tarw neu y symudir gwartheg rhwng ffermydd bellach yn gwneud llawer mwy o synnwyr yn ymarferol nag yr oedd erioed ar bapur
Mae gennym bellach system sy’n teimlo’n realistig ac mae ganddi’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion.
Meddyliau personol a theuluol:
Mae’r prosiect hwn wedi cael effaith ystyrlon arnom ni fel teulu ac ar sut y gwelwn ddyfodol ein fferm.
- Fe wnaeth ganiatáu inni ddechrau menter cadw gwartheg yr oeddem wedi bod eisiau ei hadeiladu ers blynyddoedd, ond heb ddigon o hyder i ddechrau arni.
- Mae wedi cryfhau ein cred y gall ffermio dan arweiniad natur a menter wledig gydweithio, yn hytrach na bod yn ddau fyd ar wahân.
- Rhoddodd ymdeimlad enfawr o falchder inni gyfrannu at adfer darn o dir comin a oedd wedi dirywio ers blynyddoedd.
Beth fydd y treial yn ei newid yn y dyfodol?
Oherwydd y Cyllid Arbrofi, rydym nawr yn bwriadu:
- Parhau i bori’r tir comin yn flynyddol gyda chynllun stocio a mwynau sydd wedi’i addasu.
- Archwilio pori yn yr haf gyda chymysgedd o wartheg a ‘dosbarth sathru’ (bustych/heffrod sych).
- Datblygu sut rydym yn mynd i gyflenwi ein cig eidion yn syth i briodasau/digwyddiadau yn ogystal â’n brand cig adfywiol, ‘The Belted Box’.
- Ehangu ein defnydd o rithffensio ar gyfer pori cylchdro ym Mherthllwyd a Wholehouse.
- Adeiladu cynllun hirdymor i wella cynefin, gan fonitro llystyfiant yn rheolaidd.
Mae’r treial wedi newid ein dealltwriaeth yn sylfaenol o’r hyn sy’n bosibl ar y tir comin a’r fferm ehangach.
Meddyliau olaf:
Nid yn unig y gwnaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ein helpu i brofi darn o dechnoleg, fe’n helpodd i ailgynllunio system gyfan hefyd.
Rhoddodd yr hyder, y data a’r gefnogaeth broffesiynol inni i ddod â gwartheg yn ôl i dirwedd sydd eu hangen, dechrau menter newydd sy’n cryfhau ein busnes, a gosod ein fferm ar lwybr mwy cydnerth, ecolegol a theuluol.
Bydd y manteision yn parhau ymhell y tu hwnt i oes y prosiect.