BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Pori Cadwriaeth: Rheoli mynyddoedd yn gynaliadwy gan ddefnyddio coleri GPS Monil ar gyfer gwartheg brodorol - Adroddiad Terfynol

Treial pori maenor Buckland a datblygu system fferm 

 

Ffermwr: Huw Jones (Wholehouse Farm)  

Swyddog Cyswllt Ffermio: Lynfa Davies  

Arweinydd Technegol: James Daniel (Precision Grazing)  

Arweinydd yr Arolwg Llystyfiant: Helen Barnes  

Dyddiadau: Mai–Hydref 2025 

Huw Jones

 

1. Cyflwyniad 

Mae Wholehouse Farm yn datblygu system gwartheg bîff sugno heb lawer o fewnbwn er mwyn defnyddio hawliau pori ar Gomin Maenor Buckland. Mae 10 o heffrod Belted Galloway cyflo (24 mis oed) yn ffurfio’r fuches gnewyllyn. Mae’r fenter hon yn cefnogi amcanion rheoli cynefin o ran lleihau rhedyn, gwella strwythur llystyfiant a lleihau llwyth tân, a hynny wrth gryfhau cydnerthedd y busnes a chreu potensial i gyflenwi cig eidion i fenter priodasau a digwyddiadau’r teulu. 
Mae’r system yn seiliedig ar wartheg sy’n lloia yn y gwanwyn ac yn paru ar dir is ym Mherthllwyd Fawr, cyn symud cael eu symud i bori ar Dir Comin Maenor Buckland rhwng mis Mai a mis Tachwedd. Mae’r gwartheg yn dychwelyd i bori glaswellt gohiriedig a byrnau ar dir Berthllwyd Fawr nes eu bod yn cael eu symud i Wholehouse ym mis Rhagfyr i’w rhoi dan do ac i ddiddyfnu’r lloi. 
Mae’r gwartheg wedi’u cyfarparu â choleri rhithffensio GPS Monil o dan Brosiect Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio. Mae’r coleri hyn yn caniatáu rheoli o bell, monitro lle mae’r gwartheg yn pori, a rheoli pori mewn ffordd addasol. 
Ochr yn ochr â’r treial pori technegol gyda chymorth James Daniel o Precision Grazing, cynhaliwyd arolwg llystyfiant ecolegol ‘cyn ac ar ôl pori’ gan Helen Barnes gan ddefnyddio cerdyn sgôr cyflwr cynefin Tir Comin Cymru yr EFNCP. 

 

2. Cyd-destun y fferm a sylfaen tir 

Wholehouse (Fferm Gartref) 

  • Y canolbwynt ar gyfer lleoliad priodasau/digwyddiadau’r teulu, allfa bremiwm bosibl ar gyfer gwartheg wedi’u pesgi. 

Berthllwyd Fawr (20 munud o Wholehouse) 

  • 106 ha o dir pori effeithiol (cyfanswm o 123 ha gyda chynefin 17 ha). 
  • Yn darparu ardal baru a glaswellt gohiriedig / byrnau yn y gaeaf i wartheg. 

Comin Maenor Buckland 

  • Mae gan y fferm hawliau i dir mynydd helaeth ac mae’n bwriadu defnyddio’r rhain ar gyfer pori cadwraeth. 
  • Heb ddigon o dir pori ar hyn o bryd, gyda rhedyn a gwellt y gweunydd yn drech. 
  • Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chominwyr yn annog ailgyflwyno gwartheg. 

 

3. Amcanion y system 

1. Adfer pori gan wartheg ar Gomin Maenor Buckland. 
2. Datblygu buches sugno weithredol nad yw’n llafurddwys. 
3. Lloia yn y gwanwyn. 
4. Paru buchod ar dir caeedig. 
5. Integreiddio mentrau gwartheg a defaid. 
6. Cyflenwi cig eidion i’r busnes priodasau/digwyddiadau. 

 

4. Calendr digwyddiadau blynyddol

Cyfnod 

Gweithgaredd 

Lleoliad 

Canol Ionawr – Mawrth 

Lloia (dan do/awyr agored yn dibynnu ar y tywydd). Canol Mawrth 

Wholehouse 

Ebrill – Mehefin 

Tarw o 20 Ebrill am gyfnod o 8 wythnos 

Berthllwyd Fawr 

Mehefin – Tachwedd 

Pori ar yr ucheldir gyda lloi wrth eu traed. Y buchod yn gwisgo coleri rhithffensio 

Comin Maenor Buckland 

Tachwedd – Rhagfyr 

Pori glaswellt gohiriedig a byrnau 

Berthllwyd Fawr 

Ionawr 

Diddyfnu a lletya (lloi) 

Wholehouse 

Gaeaf 

Rhoi gwartheg a lloi dan do 

Wholehouse 

Gwanwyn 

Lloi sydd wedi’u diddyfnu yn pori/dan do i’w magu fel gwartheg tew neu stôr 

Wholehouse 

 

5. Dadansoddi porthiant a mwynau 

Dangosodd sampl o borfa ffres a gasglwyd ar 10 Mehefin 2025 o Faenor Buckland y canlynol: 

Gwerthoedd maethol 

  • Egni Metaboladwy (ME): 9.3 MJ/kg DM (ymylol ar gyfer heffrod cyflo) 
  • Protein Crai (CP): 11% (ymylol ar gyfer heffrod cyflo; annigonol ar gyfer buchod â lloi) 

Mae’n bosibl y bydd y sampl hon a ddewiswyd â llaw yn tanamcangyfrif yr hyn y mae gwartheg pori yn ei ddewis. Serch hynny, mae monitro sgôr cyflwr y corff (BCS) yn fanwl yn hanfodol. 

Mwynau 

  • Calsiwm, magnesiwm: islaw’r lefelau a argymhellir 
  • Ffosfforws: Digonol o drwch y blewyn 
  • Seleniwm: Diffygiol i bob pwrpas 
  • Copr: Isel, gyda molybdenwm uchel yn lleihau argaeledd 

Dylid ymgynghori â milfeddygon ynghylch profion gwaed ac atchwanegiadau mwynau priodol. 

 

 6. Rheoli pori ar y comin 

Nododd yr arolwg o blanhigion gan yr ecolegydd, Helen Barnes, ym mis Mehefin 2025, fod y tir yn cael ei danbori, y rhedyn yn ehangu, gwellt y gweunydd yn dominyddu, a strwythur y corlwyni yn llai. Mae rheoli rhedyn gan ddefnyddio da byw fel arfer yn gofyn am gryn dipyn o sathru, am gyfnod byr, nad yw’n addas ar gyfer buchod â lloi.

Ymhlith dulliau eraill â llai o risg mae: 

  • Gosod halen/llyfwr 
  • Gosod dŵr mewn mannau strategol (symudol os yn bosibl) 
  • Defnyddio gwahanol ddosbarthiadau o stoc (e.e. bustych neu heffrod sych) os oes angen sathru’r tir yn drymach. 

Ymhlith yr argymhellion am strategaeth pori ucheldir mae: 

  • Nodi a mapio ffynonellau dŵr dibynadwy 
  • Dyrannu rhithbadogau mawr (>25ha) sy’n cynnwys o leiaf un ffynhonnell ddŵr 
  • Anelu at ddefnyddio 30–50% o’r biomas poriadwy 
  • Gwirio’r cyflenwad dŵr yn wythnosol 
  • Monitro’r BCS bob mis. 

 

7. Pennu cyllideb ar gyfer porthiant y gaeaf 

2025–26: 10 heffer gyflo 

Porthiant ar gael: 

  • Pori byrnau: 20 o fyrnau       4,320 kg o DM 
  • Porfa ohiriedig (4 ha): 4,800 kg o DM 

Cyfanswm: 9,120 kg o DM 

 

Gofyniad: 140 kg o DM/dydd 

Hyd: 65 diwrnod 

Dyraniad: 1 bêl bob 3 diwrnod 

 

2026–27: 10 buwch â lloi (60 diwrnod) 

Gofyniad: 

  • 10 pâr (buwch a llo)         180 kg o DM/dydd       10,800 kg o DM (60 diwrnod) 

 Ar gael 

  • Porfa ohiriedig: 4,800 kg o DM 

Diffyg: 6,000 kg o DM 

     Angen 30 o fyrnau (216 kg o DM y gellir ei ddefnyddio fesul bêl) 

Dyraniad: 1 bwrn bob 2 ddiwrnod 

 

8. Gofynion dŵr 

Heffrod (450 kg) 

  • Haf: 450 – 550 L/dydd (grŵp) 
  • Gaeaf: 200 – 300 L/dydd 

Buchod gyda lloi (550 kg + llo) 

  • Haf: 600 – 800 L/dydd  
  • Gaeaf: 400 – 500 L/dydd 

Disgwylir i ffynonellau dŵr naturiol ar y tir comin a’r fferm fodloni’r gofynion. 

 

9. Arolwg o’r llystyfiant (asesiad ‘cyn ac ar ôl pori’) 

Arweinydd yr arolwg: Helen Barnes (Cerdyn Sgorio Tir Comin Cymru yr EFNCP) 

Dyddiadau’r arolwg: 

  • Cyn pori: 11 Mehefin 2025 
  • Ar ôl pori am 3 mis: 18 Medi 2025 

Dull 

  • Dewiswyd chwe phwynt o’r arolwg i gynrychioli amrywioldeb cynefin. 
  • Asesodd y cerdyn sgôr yr amrywiaeth o blanhigion, strwythur y llystyfiant, corlwyni, migwyn, coed/llwyni, rhywogaethau ymledol ac effeithiau negyddol. 
  • Tynnwyd lluniau i gyfeirio atynt a lleoliadau GPS ar gyfer ailadroddadwyedd. 
  • Canolbwyntiodd yr arolwg ‘ar ôl pori’ ar strwythur y llystyfiant, yr unig elfen sy’n debygol o newid yn sylweddol mewn un tymor. 

Canlyniadau a chasgliadau 

Fe wnaeth cyflwr y llystyfiant wella ar gyfer bioamrywiaeth ar ôl i’r tir gael ei bori yn ystod haf 2025. Er na ellir diystyru ffactorau allanol a bod angen cyfnod astudio hwy, dengys tystiolaeth ragarweiniol fod pori gan wartheg wedi cael effaith fuddiol ar ansawdd y cynefin. 

 

10. Crynodeb technegol a llystyfiant a’r camau nesaf 

Mae’r adroddiadau technegol ac ecolegol cyfun yn darparu dull strwythuredig o ailgyflwyno gwartheg i Gomin Maenor Buckland. 

Prif Bwyntiau: 

  • Mae pori gan wartheg yn dangos effeithiau cadarnhaol cynnar ar gynefin. 
  • Mae ansawdd y porthiant yn ymylol, ac mae angen monitro’r cyflwr a’r cymeriant yn ofalus. 
  • Mae cyllidebu porthiant y gaeaf yn awgrymu bod gaeafu yn yr awyr agored ar laswellt gohiriedig a byrnau yn hyfyw. 
  • Er mwyn rheoli rhedyn, efallai fod angen dosbarthiadau ychwanegol neu wahanol o stoc. 
  • Bydd y gyfradd stocio orau yn dibynnu nid yn unig ar gyflenwad y porthiant ond ar lety yn ystod y gaeaf, y cyflenwad o fyrnau, a’r capasiti gwerthu uniongyrchol. 

 

Camau gweithredu a argymhellir: 

  1. Sgôr cyflwr y corff ar gyfer heffrod sy’n dychwelyd o’r tir comin – targed o >3 (4 yn ddelfrydol). 
  1. Trafodwch y dadansoddiad o fwynau gyda’r milfeddyg; ystyriwch brofion gwaed. 
  1. Adolygwch y calendr symud gwartheg, tai a logisteg lloia. 
  1. Adolygwch ganlyniadau arolygon bioamrywiaeth yn y dyfodol i olrhain effeithiau ar gynefin. 
  1. Parhewch i fapio a monitro ffynonellau dŵr. 
  1. Datblygwch elw gros dros dro ar gyfer y farchnad ‘cyflenwi cig eidion yn uniongyrchol’. 

 

11. Meddyliau a chyfraniadau o safbwynt Wholehouse Farm  

Pam wnaethom ni ymgeisio am y Cyllid Arbrofi? 

Cafodd ein penderfyniad i ymgeisio am Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ei ysgogi gan ddau angen a ddaeth i’r amlwg ar yr un pryd ar ein fferm: 

  1. I ddod â gwartheg yn ôl i Gomin Maenor Buckland, lle roedd yr arfer o bori wedi chwalu i bob pwrpas a rhedyn wedi meddiannu’r tir. 
  1. I adeiladu buches sugno adfywiol, heb lawer o fewnbynnau, sy’n cyd-fynd â chyfeiriad dyfodol fferm a busnes digwyddiadau ein teulu. 

Roeddem eisiau deall a allai gwartheg ffynnu ar y dirwedd hon; a oedd technoleg rithffensio yn ddigon dibynadwy ar gyfer pori ar yr ucheldir; ac a allai’r math yma o bori sicrhau gwelliannau amlwg i gynefin o fewn un tymor. 

Rhoddodd y Cyllid Arbrofi y strwythur, yr hyder a’r gefnogaeth arbenigol i ni i brofi rhywbeth na fyddem wedi gallu rhoi cynnig arno ar ein pennau ein hunain. 

 

Beth oedd y dechnoleg rithffensio yn ei olygu i ni? 

Nid oeddem erioed wedi defnyddio coleri GPS o’r blaen, a heb y dechnoleg hon, ni fyddai’r gwartheg wedi gallu pori’r tir comin yn ddiogel nac yn ymarferol. 

Ein meddyliau: 

  • Rhoddodd y coleri hyder i ni droi gwartheg allan i ucheldir mawr, anghysbell a garw lle mae ffensys traddodiadol yn annibynadwy neu’n amhosibl. 
  • Arbedwyd llawer iawn o amser. 
  • Fe wnaethom ddysgu’n gyflym sut mae gwartheg yn ymateb i rithffiniau. Fe wnaeth hyn feithrin ein sgiliau a’n paratoi ar gyfer pori addasol yn y dyfodol ar yr ucheldir a’r tir cartref. 
  • Helpodd y treial ni i ddeall y cyfyngiadau o ran yr angen am flociau mawr yn hytrach na chylchdroadau tyn a phwysigrwydd lleoli dŵr. 

At ei gilydd, mae rhithffensio wedi agor tir nad oeddem yn gallu ei ddefnyddio’n effeithiol. 

 

Yr effaith ar ein busnes: 

Daeth y treial ar adeg bwysig i’n teulu wrth i ni barhau i adeiladu fferm arallgyfeiriedig sy’n canolbwyntio ar: 

  • Dda byw adfywiol 
  • Twristiaeth a digwyddiadau 
  • Adfer cynefin yn yr hirdymor 
  • Cael y teulu i fod yn rhan o ffermio a rheoli tir 

Cefnogodd y prosiect ni i: 

  • Adfer buches sugno â hyder 
  • Cysylltu ein brand bocs cig arfaethedig a’n cyflenwad o gig eidion, sy’n mynd yn syth i’r lleoliad, â system bori sy’n cyd-fynd â’n hethos 
  • Pori’r tir ffridd yn fwy effeithiol a helpu i leihau’r baich llyngyr yn y ddiadell ddefaid 
  • Gwella’r broses o gyllidebu porthiant y fferm gyfan a chynllunio ar gyfer y gaeaf 
  • Dechrau adeiladu system wartheg sy’n gweithio o fewn ein gallu a’n bywyd teuluol 

Mae’r treial hwn wedi dod yn garreg sylfaen ein strategaeth wartheg hirdymor. 

 

Yr hyn a ddysgom am y tir: 

Roedd gweld Tir Comin Maenor Buckland drwy lens dechnegol (James Daniel) ac un ecolegol (Helen Barnes) yn un o rannau mwyaf gwerthfawr y prosiect. 

Ein meddyliau: 

  • Cafodd y gwartheg effaith weladwy ar strwythur y tir, gyda llwybrau cliriach, porfa o lai o uchder, ac arwyddion o chwalu clystyrau gwellt y gweunydd. 
  • Mae rheoli rhedyn yn gofyn am fwy o ddwysedd nag y gall buchod â lloi ei ddarparu’n ddiogel; rhywbeth y gallwn bellach gynllunio ar ei gyfer gan ddefnyddio gwahanol ddosbarthiadau o stoc yn y dyfodol. 
  • Rhoddodd y mapio dŵr a’r asesiadau o blanhigion ddarlun llawer cliriach i ni o sut mae’r ucheldir yn gweithio a beth sy’n bosibl. 

Rydym bellach yn teimlo’n llawer mwy cymwys a gwybodus ynglŷn â rheoli’r dirwedd hon. 

 

Yr hyn a ddysgom am ein gwartheg a’n system: 

Fel cynhyrchwyr gwartheg sugno am y tro cyntaf, bu’n rhaid i ni ddysgu llawer iawn, ac fe wnaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ein cefnogi’n broffesiynol ac yn ymarferol. 

Safbwyntiau allweddol: 

  • Rhaid gwirio BSC yr heffrod yn barhaus, nid yn achlysurol 
  • Mae problemau mwynol yn real ac mae angen eu rheoli’n rhagweithiol. Rhoddwyd bolws mwynau i’r buchod 
  • Mae pori ar ucheldir yn gweithio orau gyda gwartheg tawel, heini sydd o anian dda ac sy’n gallu symud yn iawn 
  • Mae pori glaswellt gohiriedig a byrnau yn opsiwn hyfyw wrth aeafu gwartheg yn yr awyr agored, gan leihau’r pwysau ar ein hadeiladau 
  • Mae amseru lloia a’r adeg y cyflwynir tarw neu y symudir gwartheg rhwng ffermydd bellach yn gwneud llawer mwy o synnwyr yn ymarferol nag yr oedd erioed ar bapur 

Mae gennym bellach system sy’n teimlo’n realistig ac mae ganddi’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion. 

 

Meddyliau personol a theuluol: 

Mae’r prosiect hwn wedi cael effaith ystyrlon arnom ni fel teulu ac ar sut y gwelwn ddyfodol ein fferm. 

  • Fe wnaeth ganiatáu inni ddechrau menter cadw gwartheg yr oeddem wedi bod eisiau ei hadeiladu ers blynyddoedd, ond heb ddigon o hyder i ddechrau arni. 
  • Mae wedi cryfhau ein cred y gall ffermio dan arweiniad natur a menter wledig gydweithio, yn hytrach na bod yn ddau fyd ar wahân. 
  • Rhoddodd ymdeimlad enfawr o falchder inni gyfrannu at adfer darn o dir comin a oedd wedi dirywio ers blynyddoedd. 

 

Beth fydd y treial yn ei newid yn y dyfodol? 

Oherwydd y Cyllid Arbrofi, rydym nawr yn bwriadu: 

  • Parhau i bori’r tir comin yn flynyddol gyda chynllun stocio a mwynau sydd wedi’i addasu. 
  • Archwilio pori yn yr haf gyda chymysgedd o wartheg a ‘dosbarth sathru’ (bustych/heffrod sych). 
  • Datblygu sut rydym yn mynd i gyflenwi ein cig eidion yn syth i briodasau/digwyddiadau yn ogystal â’n brand cig adfywiol, ‘The Belted Box’. 
  • Ehangu ein defnydd o rithffensio ar gyfer pori cylchdro ym Mherthllwyd a Wholehouse. 
  • Adeiladu cynllun hirdymor i wella cynefin, gan fonitro llystyfiant yn rheolaidd. 

Mae’r treial wedi newid ein dealltwriaeth yn sylfaenol o’r hyn sy’n bosibl ar y tir comin a’r fferm ehangach. 

 

Meddyliau olaf: 

Nid yn unig y gwnaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio ein helpu i brofi darn o dechnoleg, fe’n helpodd i ailgynllunio system gyfan hefyd. 

Rhoddodd yr hyder, y data a’r gefnogaeth broffesiynol inni i ddod â gwartheg yn ôl i dirwedd sydd eu hangen, dechrau menter newydd sy’n cryfhau ein busnes, a gosod ein fferm ar lwybr mwy cydnerth, ecolegol a theuluol. 

Bydd y manteision yn parhau ymhell y tu hwnt i oes y prosiect. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.