BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Sut mae sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd yn anelu at wella canlyniadau sganio

Mae trin dim ond ŵyn sy’n tanberfformio wedi arwain at fferm ddefaid yng Nghymru yn defnyddio 45% yn llai o wrthlyngyr, a hynny heb unrhyw effaith ar bwysau a pherfformiad yr anifeiliaid.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf:
4 Tachwedd 2026
Glyn and Chris Davies

26/05/2026
Mae trin dim ond ŵyn sy’n tanberfformio wedi arwain at fferm ddefaid yng Nghymru yn defnyddio 45% yn llai o wrthlyngyr, a hynny heb unrhyw effaith ar bwysau a pherfformiad yr anifeiliaid.  

Fe wnaeth Glyn a Chris Davies gyflwyno Triniaeth Ddetholus wedi’i Thargedu (TST) i’w system yn Awel y Grug.

Mae’r ffordd hon o reoli parasitiaid yn cynnwys trin dim ond yr ŵyn sy’n methu â bodloni meincnodau perfformiad penodol, yn bennaf faint o bwysau byw mae’r ŵyn yn eu hennill bob dydd (DLWG)

Yn y gorffennol, byddai’r teulu Davies wedi trin pob oen o fewn y grŵp yn rheolaidd pe teimlid bod rhaid ymyrryd yn dilyn achos o fewn y grŵp hwnnw.

Treialwyd protocol TST Moredun ar eu fferm yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn fel rhan o brosiect Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.

Fe wnaeth yr ymgynghorydd da byw annibynnol, Matt Blyth, ochr yn ochr â’r ymgynghorydd defaid, Kate Phillips, gefnogi’r fferm yn ystod y prosiect blwyddyn o hyd. Yn ôl Matt, mewn systemau TST, mae targedau perfformiad yn seiliedig ar isafswm y pwysau byw y dylai oen eu hennill bob dydd rhwng dau bwynt pwyso.

Mae’r targedau hyn yn ystyried y pwysau a gofnodwyd yn flaenorol, ansawdd y porthiant a’i argaeledd, cymarebau trosi porthiant, y tywydd ar y pryd, a pha gam y mae’r ŵyn yn eu cylch cynhyrchu.

Dywed Matt mai’r disgwyliad yw y dylai ŵyn ragori ar y targedau hynny pan fydd yr amodau’n caniatáu, ond mae hyd yn oed y rhai sydd ond yn gallu eu cyrraedd yn annhebygol o eisiau gwrthlyngyr chwaith.

“Mae ymchwil wedi dangos bod ŵyn sy’n cyrraedd o leiaf y targed lleiaf yn gyffredinol yn ymdopi â pharasitiaid a does dim angen eu trin am lyngyr ar y pryd,” meddai.

Mae sawl mantais i dorri’n ôl ar wrthlyngyryddion, ychwanega Matt, ac mae rhai’n anoddach i’w meintioli, fel llai o amlygiad i anthelmintigau a’r manteision amgylcheddol o ddefnyddio llai o gemegau mewn amaethyddiaeth.

“Trwy adnabod a thrin anifeiliaid a fethodd â chyrraedd eu pwysau targed, arbedodd Glyn a Chris werth tua 52% o gost y drensh y bydden nhw fel arfer yn ei ddefnyddio pe baen nhw’n trin pob anifail mewn grŵp,” meddai.

Cafodd ŵyn yng ngrŵp rheoli’r prosiect eu dosio bedair gwaith ar gyfartaledd; roedd yr anifeiliaid hynny’n pwyso 15.3kg ar gyfartaledd ar ddechrau’r treial, a 27kg ar ei ddiwedd.

Yn y grŵp TST, cafodd yr ŵyn eu dosio 2.2 o weithiau ar gyfartaledd, gyda’r ŵyn hynny’n pwyso 16kg ar gyfartaledd ar ddechrau’r prosiect, ac yna 28.4kg ar ei ddiwedd.

Cafodd yr ŵyn eu pwyso bob tair i bedair wythnos ac aseswyd eu perfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd o ran twf.

Wnaethon nhw ddim drensio’r ŵyn a gyrhaeddodd y targedau neu a ragorodd arnyn nhw. “Hyd yn oed os oedd baich parasitaidd yn bresennol, doedd y baich ddim yn ddigon sylweddol i effeithio ar dwf,” meddai Matt.

Cafodd yr ŵyn a fethodd â chyrraedd y pwysau targed eu nodi am fwy o ymchwiliad, ychwanega.

“Roedden nhw’n fwy tebygol o angen cael eu trin gan y gallai diffyg twf olygu mwy o faich parasitaidd ar y tu mewn a allai fod wedi effeithio ar eu perfformiad.”

Ystyriwyd achosion posibl eraill fel cloffni, diffyg elfennau hybrin, parasitiaid allanol, diffyg maeth, a phroblemau iechyd eraill.

Am y rhesymau hyn, ni ddylid defnyddio TST ar ei ben ei hun, cynghora Matt.

“Mae cydweithio’n agos â milfeddyg neu ymgynghorydd da byw yn hollbwysig i ddehongli data perfformiad yn gywir a deall beth sy’n digwydd yn ehangach ar y fferm,” meddai.

Cafodd nifer fach o ŵyn eu trin yn olynol – bu’n rhaid trin tri oen bob tro y cawson nhw eu pwyso. Roedd hyn yn awgrymu bod yna broblem o dan yr wyneb, ychwanega Matt.

Gallai’r ŵyn hyn fod wedi cael eu magu gan famog ifanc, eu mam yn dioddef o fastitis neu wedi eu gwrthod, neu efallai fod gan yr ŵyn broblemau iechyd eraill.

“Pe bai nifer yr ŵyn yr oedd angen eu trin bob tro wedi bod yn uwch, byddwn wedi ymchwilio ymhellach i deall pam nad oedden nhw’n cyrraedd yr isafswm pwysau targed drwy gydol y pum sesiwn bwyso,” meddai Matt.

Trwy gydol y prosiect, defnyddiwyd FEXPAK fel prawf cyfrif wyau ysgarthol i brofi effeithiolrwydd y drensh.

Mae’r system hon yn monitro ymwrthedd i wrthlyngyr a baich llyngyr a dylid ei defnyddio ochr yn ochr â chyngor gan filfeddyg neu weithiwr iechyd anifeiliaid proffesiynol, yn ôl Matt.

Pennwyd pryd y cymerwyd y samplau hynny gan y cynhwysyn actif yn y drensh penodol, naill ai saith diwrnod ar ôl defnyddio’r gwrthlyngyr 2-LV, a 14 diwrnod ar ôl defnyddio’r gwrthlyngyr 3-MI clir.

Mae arbedion cost yn ganlyniad cadarnhaol amlwg o ddefnyddio llai o wrthlyngyryddion, ond mae yna hefyd ganlyniadau cadarnhaol eraill, er bod y rhain yn anoddach i’w meintioli – fel llai o amlygiad i anthelmintigau a’r manteision amgylcheddol ymhlith rhai eraill.

Y costau na chyfrifwyd yw llafur a’r amser a dreuliwyd yn pwyso pob anifail.

Un o’r heriau ar ddechrau’r prosiect oedd cael y dechnoleg i weithio’n effeithlon gyda’i gilydd, ond unwaith roedd y cyfan yn weithredol, fe weithiodd. Ac fe gafwyd canlyniadau cadarnhaol i’r da byw ac arbedion i’r busnes, er bod angen tipyn o gefnogaeth ac ymyrraeth, meddai Matt.

Cost arall na chafodd ei hystyried yn yr arbedion a’r manteision eraill oedd y gwariant ariannol ar gyfer offer trin, meddalwedd a chaledwedd.

Dywed Matt y byddai’r offer yma wedi cael mwy o ddefnydd ar y fferm, ac nid ar gyfer y gwaith hwn yn unig. “Mae buddsoddiad cyfalaf yr offer yma, fodd bynnag, yn dipyn o gost i fusnes.”

Dewisodd Glyn a Chris brynu offer manyleb uchel, gan gynnwys clamp combi, a wnaeth symleiddio’r broses o weithredu TST a gweinyddu’r dos cywir yn ôl pwysau pob oen.

Ond i eraill sy’n ystyried TST, does dim rhaid cael technoleg ddrudfawr ar gyfer y system, meddai Owain Pugh, Swyddog Sector Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer canolbarth Cymru, a gefnogodd y teulu Davies gyda’r prosiect.

“Gallwch roi TST ar waith gyda phennau pwyso lefel mynediad a darllenwyr EID sy’n gydnaws ag apiau trydydd parti, ochr yn ochr â phwyswr cawell safonol,” meddai Owain.

“Mae rhannu ŵyn yn grwpiau ar gyfer triniaeth yn ffordd ymarferol a darbodus sy’n dal i’ch galluogi i gofnodi a thrin yn gywir.”

I Glyn a Chris, bu’r prosiect yn drawsnewidiol a fyddan nhw byth eto’n dychwelyd i ddrensio’r ŵyn i gyd.

“Dwi’n bwriadu defnyddio TST am weddill fy mywyd ffermio,” meddai Chris.

Mae sefydlu union bwysau pob oen a rhoi’r dos cyfatebol yn gwneud synnwyr mewn sawl ffordd, ychwanega, ac mae’n cydnabod bod dyfalu pwysau oen trwy asesiad gweledol yn annibynadwy.

“Mae gynnon ni ŵyn 52kg yn cofnodi 1,000 o wyau y gram mewn profion FEC ond yn ennill 350g y dydd ar borfa heb iddyn nhw gael eu drensio, felly mae’n ymddangos eu bod nhw’n magu gwydnwch.”

Un o’r rhesymau pam yr oedd yn awyddus i dreialu TST yw bod y fferm wedi datblygu ymwrthedd i ddrensh gwyn, oherwydd yn y gorffennol, dyma’r unig fath o wrthlyngyr a ddefnyddid yn Awel y Grug.

Trwy osgoi triniaethau ‘blanced’, mae’n gobeithio osgoi adeiladu ymwrthedd i ddrensys eraill.

Mae TST hefyd wedi arwain Chris i graffu’n fanwl ar fridio’r ddiadell ar ôl i ŵyn benyw a gafodd eu drensio yn 2025 ond ennill 50–60g y dydd.

“Dwi wedi bod yn monitro llinellau genetig gan nad yw ŵyn o’r llinellau hynny byth yn mynd i dyfu’n famogiaid mawr cryf. Does dim lle i’r eneteg honno yn y ddiadell.”

TST yw un o’r dulliau hynny y gall ffermwyr defaid eu defnyddio i’w helpu i reoli parasitiaid.

Os ydych chi’n defnyddio TST, mae Matt yn argymell cymryd profion FEC a phrawf lleihau FEC i gadarnhau bod yr anthelmintigau a ddefnyddir ar y fferm yn gweithio’n effeithlon.

Dylai ffermwyr hefyd fonitro rhagolygon nematodirus, asesu ŵyn yn weledol, a chael arweiniad proffesiynol gan filfeddyg neu gynghorydd, ychwanega.

FFEITHIAU AM Y FFERM

Yn ffermio 129 hectar sy’n eiddo iddyn nhw

Y tir yn codi i uchder o 366m

Pori cylchdro

800 o ddefaid Miwl Cymreig, mamogiaid Texel croes a defaid Cymreig math Nelson.

Gwerthir yr ŵyn drwy farchnad da byw y Trallwng

 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.