BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

GWEMINAR- Olyniaeth: Cynllunio, Cyfathrebu a Sicrhau'r Dyfodol

Olyniaeth: Cynllunio, Cyfathrebu a Sicrhau'r Dyfodol
Math o ddigywddiad:
Dyddiad ac amser:
- + other dates
Lleoliad:
Online

Event overview

Siaradwyr: Nerys Llewelyn Jones, Agri Advisor a Haydn Evans, Hwylusydd Olyniaeth


Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn un o'r penderfyniadau pwysicaf y gall teuluoedd sy'n ffermio ei wneud. Ymunwch â ni am weminar a fydd yn trafod agweddau allweddol ar olyniaeth, blaengynllunio a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r busnes teuluol.

Beth fydd yn cael ei drafod?


Bydd Nerys yn rhoi trosolwg o'r agweddau cyfreithiol sy'n ymwneud ag olyniaeth, gan gynnwys

  • Y sefyllfa bresennol o ran Treth Etifeddiant (IHT)
  • Pam mae cynllunio olyniaeth yn hanfodol
  • Ystyriaethau allweddol i deuluoedd sy'n ffermio wrth baratoi ar gyfer y dyfodol
  • Camau ymarferol i helpu i osgoi problemau a gwella sicrwydd i'r genhedlaeth nesaf


Bydd Haydn yn canolbwyntio ar ochr ddynol y broses olyniaeth, gan drafod:

  • Pwysigrwydd cyfathrebu agored o fewn y teulu
  • Sut i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio barn ac i ddod i gytundeb
  • Heriau a chyfleoedd o ran trafodaethau teuluol am y dyfodol
  • Astudiaeth achos bersonol yn seiliedig ar brofiad ei deulu ei hun


Pam mynychu?


Bydd y weminar hon yn cynnig cipolwg gwerthfawr i'r camau cyfreithiol ac ymarferol sydd eu hangen i gynllunio olyniaeth yn effeithiol, gan helpu teuluoedd i ddechrau'r sgwrs bwysig sydd yn aml yn cael ei ohirio.
Peidiwch â cholli'r cyfle i gael cyngor arbenigol a dysgu o brofiadau go iawn.

I fynychu, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio. Os nad ydych chi wedi cofrestru eto, gwnewch hynny drwy wefan Cyswllt Ffermio.

Ymunwch â ni i gael arweiniad arbenigol ac i sicrhau bod eich fferm wedi’i pharatoi’n dda ar gyfer cam nesaf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.  

Mae angen neilltuo lle. I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Tîm Digwyddiadau Cyswllt Ffermio ar digwyddiadaucyswlltffermio@mentera.cymru 

 

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Maw, 10 Nov 2026 7:30 - 9yp Online FREE
- Book online
Iau, 19 Nov 2026 7:30 - 9yp Online FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@mentera.cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


Beth Sydd Ymlaen

Bydd cyfranogwyr y gweithdy yn ystyried yr achosion amrywiol o erthylu ac yn dysgu am yr effaith ar...

Bydd mynychwyr y gweithdy’n gweithio drwy’r agweddau ar iechyd a rheolaeth anifeiliaid i wella...

Pan fod pob eiliad yn cyfrif: Gweithdai cymorth cyntaf ymarferol i ffermwyr

Bydd y rhai sy’n mynychu’r gweithdy yn dysgu am y cylch bywyd a’r arwyddion clinigol sy’n...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.