
Ymhle hoffech chi weld eich busnes fferm yn y dyfodol a sut fyddwch chi'n cyrraedd yno? Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer Meistr ar Fusnes – Cig Coch, dosbarth meistr undydd gydag Emma Jones, ADAS. Mae’r dosbarth meistr wedi'i lunio i helpu ffermwyr bîff a defaid i ddeall eu busnes a datblygu cynllun ymarferol ar gyfer ei ddyfodol.
O ddeall cyfrifon y fferm a meincnodi perfformiad i edrych ar gyfleoedd datblygu a pharatoi rhagolwg o lif arian, bydd y gweithdy yn eich tywys trwy gamau allweddol cynllunio busnes. Bydd cyfle gennych i ddefnyddio’r hyn a ddysgwch yn eich busnes eich hun a datblygu eich cynlluniau drwy gydol y dydd.
Beth fydd y dosbarth meistr yn ei drafod?
Bore: Deall eich busnes a phennu eich cyfeiriad
- Cyflwyno eich hun a'ch busnes, a rhannu’r hyn rydych chi am ei ddysgu o'r diwrnod.
- Mynd i’r afael â chynllunio busnes: beth ydych chi’n ei gynllunio, a beth ydych chi am ei gyflawni?
- Archwilio’r hyn rydych chi eisoes yn ei wybod am eich busnes fferm a nodi bylchau yn eich dealltwriaeth.
- Datblygu eich dealltwriaeth o gyfrifon busnes fferm.
- Archwilio sut y gall monitro perfformiad a meincnodi lywio eich penderfyniadau.
- Cynnal dadansoddiad SWOT i nodi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau eich busnes.
Egwyl am ginio - Darperir cinio
Prynhawn: Datblygu, ariannu ac adolygu eich cynlluniau
- Ystyried sut rydych chi am ddatblygu eich busnes.
- Archwilio sut y gallech ariannu eich datblygiadau arfaethedig.
- Adeiladu ar y cyfleoedd a nodwyd yn eich dadansoddiad SWOT.
- Nodi ffyrdd o fynd i'r afael â bygythiadau i'ch busnes a'i ddatblygiad.
- Paratoi rhagolwg o lif arian busnes.
- Ystyried sut y byddwch yn monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau datblygu.
- Cwblhau a chyflwyno eich cynlluniau.
Pwy ddylai fynychu?
Ffermwyr bîff a defaid sydd eisiau deall eu busnes fferm yn well, archwilio opsiynau datblygu a mabwysiadu dull mwy strwythuredig o gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Beth fyddwch chi'n ei gael o’r dosbarth meistr?
Dealltwriaeth gliriach o sefyllfa bresennol eich busnes, profiad o ddefnyddio offer cynllunio busnes, a chynllun datblygu i'w symud ymlaen a'i fonitro.
Dyddiadau a lleoliadau
Un o'r dyddiadau a restrir isod yn unig fydd angen i chi fynychu.
| Dyddiad | Lleoliad |
| 25 Tachwedd 2026 | Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd y Graig, Dinbych, LL16 5US |
| 8 Rhagfyr 2026 | The Plough Rhosmaen, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6NP |
Cwrdd â'r tiwtor

Emma Jones, ADAS
Bydd Emma yn arwain y dosbarth meistr, gan eich tywys trwy adolygu eich busnes fferm, archwilio cyfleoedd datblygu a pharatoi eich cynlluniau busnes. Mae Emma yn arbenigwr rheoli busnes a da byw gyda dros 12 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor ar gadwyn gyflenwi dechnegol, rheoli da byw, glaswelltir ac amaeth-amgylcheddol i ffermwyr ledled y DU. Mae ganddi arbenigedd mewn systemau cynhyrchu bîff a defaid, cadwyni cyflenwi cig coch a chynllunio rheoli maetholion (ADAS UK, 2026)
A oes gennych ddiddordeb mewn mynychu?
Cymerwch ddiwrnod i ganolbwyntio ar eich busnes fferm a chynllunio eich camau nesaf. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
Dyddiad Cau: 11.59yh 08/11/2026