BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meistr ar Fusnes – Cig Coch

defaid a gwartheg

 

Ymhle hoffech chi weld eich busnes fferm yn y dyfodol a sut fyddwch chi'n cyrraedd yno? Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar gyfer Meistr ar Fusnes – Cig Coch, dosbarth meistr undydd gydag Emma Jones, ADAS. Mae’r dosbarth meistr wedi'i lunio i helpu ffermwyr bîff a defaid i ddeall eu busnes a datblygu cynllun ymarferol ar gyfer ei ddyfodol.

O ddeall cyfrifon y fferm a meincnodi perfformiad i edrych ar gyfleoedd datblygu a pharatoi rhagolwg o lif arian, bydd y gweithdy yn eich tywys trwy gamau allweddol cynllunio busnes. Bydd cyfle gennych i ddefnyddio’r hyn a ddysgwch yn eich busnes eich hun a datblygu eich cynlluniau drwy gydol y dydd.

Beth fydd y dosbarth meistr yn ei drafod?

Bore: Deall eich busnes a phennu eich cyfeiriad

  • Cyflwyno eich hun a'ch busnes, a rhannu’r hyn rydych chi am ei ddysgu o'r diwrnod.
  • Mynd i’r afael â chynllunio busnes: beth ydych chi’n ei gynllunio, a beth ydych chi am ei gyflawni?
  • Archwilio’r hyn rydych chi eisoes yn ei wybod am eich busnes fferm a nodi bylchau yn eich dealltwriaeth.
  • Datblygu eich dealltwriaeth o gyfrifon busnes fferm.
  • Archwilio sut y gall monitro perfformiad a meincnodi lywio eich penderfyniadau.
  • Cynnal dadansoddiad SWOT i nodi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau eich busnes.

Egwyl am ginio - Darperir cinio

Prynhawn: Datblygu, ariannu ac adolygu eich cynlluniau

  • Ystyried sut rydych chi am ddatblygu eich busnes.
  • Archwilio sut y gallech ariannu eich datblygiadau arfaethedig.
  • Adeiladu ar y cyfleoedd a nodwyd yn eich dadansoddiad SWOT.
  • Nodi ffyrdd o fynd i'r afael â bygythiadau i'ch busnes a'i ddatblygiad.
  • Paratoi rhagolwg o lif arian busnes.
  • Ystyried sut y byddwch yn monitro cynnydd yn erbyn eich cynlluniau datblygu.
  • Cwblhau a chyflwyno eich cynlluniau.

Pwy ddylai fynychu?

Ffermwyr bîff a defaid sydd eisiau deall eu busnes fferm yn well, archwilio opsiynau datblygu a mabwysiadu dull mwy strwythuredig o gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Beth fyddwch chi'n ei gael o’r dosbarth meistr?

Dealltwriaeth gliriach o sefyllfa bresennol eich busnes, profiad o ddefnyddio offer cynllunio busnes, a chynllun datblygu i'w symud ymlaen a'i fonitro.

Dyddiadau a lleoliadau

Un o'r dyddiadau a restrir isod yn unig fydd angen i chi fynychu.

DyddiadLleoliad
25 Tachwedd 2026 Clwb Rygbi Dinbych, Ffordd y Graig, Dinbych, LL16 5US
8 Rhagfyr 2026 The Plough Rhosmaen, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6NP


 

Cwrdd â'r tiwtor

Emma Jones

Emma Jones, ADAS 
Bydd Emma yn arwain y dosbarth meistr, gan eich tywys trwy adolygu eich busnes fferm, archwilio cyfleoedd datblygu a pharatoi eich cynlluniau busnes. Mae Emma yn arbenigwr rheoli busnes a da byw gyda dros 12 mlynedd o brofiad o ddarparu cyngor ar gadwyn gyflenwi dechnegol, rheoli da byw, glaswelltir ac amaeth-amgylcheddol i ffermwyr ledled y DU. Mae ganddi arbenigedd mewn systemau cynhyrchu bîff a defaid, cadwyni cyflenwi cig coch a chynllunio rheoli maetholion (ADAS UK, 2026)

 

 

 

A oes gennych ddiddordeb mewn mynychu?

Cymerwch ddiwrnod i ganolbwyntio ar eich busnes fferm a chynllunio eich camau nesaf. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) (6 awr).

Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.

Dyddiad Cau: 11.59yh 08/11/2026


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.