- Math o ddigywddiad:
- Wyneb yn Wyneb
- Dyddiad ac amser:
- -
- Lleoliad:
- Fferm Blacknuck
Event overview
Gwahoddir newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant amaeth a’r sector llaeth i ddigwyddiad ar y fferm, lle cewch glywed gan Mike a Rose, dau newydd-ddyfodiad sydd wedi llwyddo i sicrhau eu lle yn y diwydiant amaeth ac sydd wedi sefydlu eu menter laeth eu hunain.
Bydd y digwyddiad hwn ar y fferm yn eich helpu i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd o fynd i mewn i’r diwydiant amaeth a’r sector llaeth, sut y gellir rhedeg busnes, a’r gwirionedd sydd wrth wraidd y cyfan: y da, y drwg a’r erchyll. Bydd siaradwyr a chynrychiolwyr o wasanaethau cymorth hefyd yn bresennol i’ch helpu ar eich taith.
Bydd bwyd ar gael.
Mae’r digwyddiad hwn yn gymwys ar gyfer UA4 y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Os bydd partner busnes yn mynychu, bydd yr oriau (2 awr) yn cyfrif tuag at Weithred Gyffredinol 4 (UA4): Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yr SFS.
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch ag Eiry Williams ar eiry.williams@mentera.cymru neu 07985 155670
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Mer, 14 Hyd 2026 | 10:30yb - 2:30yp | Fferm Blacknuck |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@mentera.cymru
- Email:
- farmingconnect@mentera.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Gwahoddir ffermwyr sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i fynychu cyfres o ddigwyddiadau...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio drwy ddeall y budd o wybod statws clefydau buches a'r rôl y...
Bydd mynychwyr yn cael cyfle i wella eu gwybodaeth ynglŷn ag achosion, triniaeth a dulliau o atal...
Bydd cyfranogwyr y gweithdy yn ystyried yr achosion amrywiol o erthylu ac yn dysgu am yr effaith ar...