BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Meistr ar Bridd

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Meistr ar Bridd ar agor NAWR. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 04/09/26. Gwnewch gais nawr.

 

Mae meistr ar bridd yn weithdy ymarferol undydd sydd wedi'i gynllunio i helpu ffermwyr glaswelltir a thir âr i ddeall eu priddoedd yn well a gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus i wella iechyd, cynhyrchiant a gwydnwch y pridd.

Drwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, trafodaeth a gweithgaredd ymarferol yn y cae, bydd y gweithdy’n edrych ar agweddau ffisegol, cemegol a biolegol ar iechyd y pridd. Bydd ffermwyr yn ennill y wybodaeth a’r hyder i asesu cyflwr y pridd ar eu ffermydd eu hunain a nodi camau ymarferol i fynd i’r afael â materion fel cywasgu, anghydbwysedd yn y maetholion, strwythur gwael neu ddeunydd organig isel.

Pwy ddylai fynychu?
Mae'r gweithdy'n addas ar gyfer ffermwyr o systemau llaeth, bîff, defaid a systemau glaswelltir eraill sydd am wella eu dealltwriaeth o reoli’r pridd. Er bod y ffocws ar briddoedd glaswelltir, gall y cynnwys hefyd adlewyrchu systemau fferm ehangach lle y bo'n berthnasol, gan gynnwys tir âr, glaswelltir ar gyfer cynefin, moch neu ddofednod.

Beth fydd y gweithdy yn ei gynnwys?

  • Egwyddorion iechyd y pridd: deall beth sy'n sbarduno priodweddau, gwydnwch ac ymddygiad y pridd, gan gynnwys gweithgaredd ymarferol yn trin gwead â llaw gan ddefnyddio samplau pridd a ddygwyd o ffermydd yr aelodau eu hunain.
  • Cemeg y pridd: archwilio pH, rheolaeth NPK, gwrteithiau, tail, elfennau bach ac elfennau hybrin, gydag ymarfer cynllunio maetholion ymarferol.
  • Strwythur y pridd: asesiad o briodweddau ffisegol y pridd, gan gynnwys pyllau pridd, proffiliau’r pridd, profion treiddio, dwysedd swmp, achosion difrod ac opsiynau rheoli.
  • Bioleg y pridd a deunydd organig: deall gweithgaredd biolegol, deunydd organig y pridd, storio carbon, gwrthsefyll llifogydd, manteision cynefinoedd a dulliau ymarferol o adeiladu a chynnal priddoedd iachach.


Fformat y gweithdy

Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal o 9:30am i 5:00pm a bydd yn cynnwys dysgu rhyngweithiol, ymarferion ymarferol, amser yn yr awyr agored ar y fferm a sesiwn adolygu i helpu ffermwyr i nodi camau gweithredu y gallant eu defnyddio ar eu systemau ffermio eu hunain.


Gwneud cais i fynychu


Mae lleoedd yn gyfyngedig gydag uchafswm o 18 lle ar gael. Anogir ffermwyr sydd â diddordeb mewn gwella iechyd y pridd, defnydd maetholion, cynhyrchiant glaswelltir a gwydnwch hirdymor y fferm i wneud cais i fynychu'r gweithdy meistr ar bridd. Bydd yr oriau DPP a enillir yn ystod y gweithdy hwn yn cyfrif tuag at 6 awr o DPP ar gyfer gweithred gyffredinol 4 (UA4) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), yn amodol ar eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, a bod aelod cymwys o fusnes y fferm yn mynychu.


Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu mynychu'r lleoliad sydd fwyaf addas i chi ar y dyddiadau a restrir isod. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys ymweliad â fferm gyfagos, felly bydd angen i chi ddod â dillad addas gyda chi ar gyfer ymweliad â fferm, a gyrru o'r lleoliad a restrir isod i'r ymweliad fferm. Rydym hefyd yn gofyn i chi ddod â sampl o'ch pridd eich hun gyda chi lle y bo modd.
 

Dyddiad

Lleoliad

16 Medi 2026

Canolfan Congl Meinciau, Botwnnog, Gwynedd, LL53 8RA

23 Medi 2026

Neuadd Coracle, Llechryd, Aberteifi, SA43 2LH

 

Cwrdd â’r tiwtor...
 

Chris Duller
Mae Chris Duller yn arbenigwr ac ymgynghorydd glaswelltir annibynnol profiadol, gyda chefndir cryf mewn gwyddor y pridd, rheoli maetholion a systemau da byw sy'n seiliedig ar laswellt. Yn Gymrawd o Gymdeithas Gwyddor Pridd Prydain, mae'n cael ei gydnabod yn eang am ddarparu cyngor ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ffermwyr ar wella cynhyrchiant y borfa, ansawdd porthiant, rheoli pori ac iechyd y pridd. Mae Chris wedi gweithio'n helaeth gyda chynhyrchwyr llaeth, bîff a defaid ledled Cymru a thu hwnt, gan helpu busnesau i wneud gwell defnydd o laswellt, slyri a phorthiant i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a phroffidioldeb.

Chris Duller

Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi’r ffurflen gais.
 

 

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.