
Mae meistr ar bridd yn weithdy ymarferol undydd sydd wedi'i gynllunio i helpu ffermwyr glaswelltir a thir âr i ddeall eu priddoedd yn well a gwneud penderfyniadau rheoli gwybodus i wella iechyd, cynhyrchiant a gwydnwch y pridd.
Drwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, trafodaeth a gweithgaredd ymarferol yn y cae, bydd y gweithdy’n edrych ar agweddau ffisegol, cemegol a biolegol ar iechyd y pridd. Bydd ffermwyr yn ennill y wybodaeth a’r hyder i asesu cyflwr y pridd ar eu ffermydd eu hunain a nodi camau ymarferol i fynd i’r afael â materion fel cywasgu, anghydbwysedd yn y maetholion, strwythur gwael neu ddeunydd organig isel.
Pwy ddylai fynychu?
Mae'r gweithdy'n addas ar gyfer ffermwyr o systemau llaeth, bîff, defaid a systemau glaswelltir eraill sydd am wella eu dealltwriaeth o reoli’r pridd. Er bod y ffocws ar briddoedd glaswelltir, gall y cynnwys hefyd adlewyrchu systemau fferm ehangach lle y bo'n berthnasol, gan gynnwys tir âr, glaswelltir ar gyfer cynefin, moch neu ddofednod.
Beth fydd y gweithdy yn ei gynnwys?
- Egwyddorion iechyd y pridd: deall beth sy'n sbarduno priodweddau, gwydnwch ac ymddygiad y pridd, gan gynnwys gweithgaredd ymarferol yn trin gwead â llaw gan ddefnyddio samplau pridd a ddygwyd o ffermydd yr aelodau eu hunain.
- Cemeg y pridd: archwilio pH, rheolaeth NPK, gwrteithiau, tail, elfennau bach ac elfennau hybrin, gydag ymarfer cynllunio maetholion ymarferol.
- Strwythur y pridd: asesiad o briodweddau ffisegol y pridd, gan gynnwys pyllau pridd, proffiliau’r pridd, profion treiddio, dwysedd swmp, achosion difrod ac opsiynau rheoli.
- Bioleg y pridd a deunydd organig: deall gweithgaredd biolegol, deunydd organig y pridd, storio carbon, gwrthsefyll llifogydd, manteision cynefinoedd a dulliau ymarferol o adeiladu a chynnal priddoedd iachach.
Fformat y gweithdy
Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal o 9:30am i 5:00pm a bydd yn cynnwys dysgu rhyngweithiol, ymarferion ymarferol, amser yn yr awyr agored ar y fferm a sesiwn adolygu i helpu ffermwyr i nodi camau gweithredu y gallant eu defnyddio ar eu systemau ffermio eu hunain.
Gwneud cais i fynychu
Mae lleoedd yn gyfyngedig gydag uchafswm o 18 lle ar gael. Anogir ffermwyr sydd â diddordeb mewn gwella iechyd y pridd, defnydd maetholion, cynhyrchiant glaswelltir a gwydnwch hirdymor y fferm i wneud cais i fynychu'r gweithdy meistr ar bridd. Bydd yr oriau DPP a enillir yn ystod y gweithdy hwn yn cyfrif tuag at 6 awr o DPP ar gyfer gweithred gyffredinol 4 (UA4) y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), yn amodol ar eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, a bod aelod cymwys o fusnes y fferm yn mynychu.
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu mynychu'r lleoliad sydd fwyaf addas i chi ar y dyddiadau a restrir isod. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys ymweliad â fferm gyfagos, felly bydd angen i chi ddod â dillad addas gyda chi ar gyfer ymweliad â fferm, a gyrru o'r lleoliad a restrir isod i'r ymweliad fferm. Rydym hefyd yn gofyn i chi ddod â sampl o'ch pridd eich hun gyda chi lle y bo modd.
Dyddiad | Lleoliad |
16 Medi 2026 | Canolfan Congl Meinciau, Botwnnog, Gwynedd, LL53 8RA |
23 Medi 2026 | Neuadd Coracle, Llechryd, Aberteifi, SA43 2LH |
Cwrdd â’r tiwtor...
Chris Duller
Mae Chris Duller yn arbenigwr ac ymgynghorydd glaswelltir annibynnol profiadol, gyda chefndir cryf mewn gwyddor y pridd, rheoli maetholion a systemau da byw sy'n seiliedig ar laswellt. Yn Gymrawd o Gymdeithas Gwyddor Pridd Prydain, mae'n cael ei gydnabod yn eang am ddarparu cyngor ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ffermwyr ar wella cynhyrchiant y borfa, ansawdd porthiant, rheoli pori ac iechyd y pridd. Mae Chris wedi gweithio'n helaeth gyda chynhyrchwyr llaeth, bîff a defaid ledled Cymru a thu hwnt, gan helpu busnesau i wneud gwell defnydd o laswellt, slyri a phorthiant i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a phroffidioldeb.

Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi’r ffurflen gais.