BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Hannah Norman

Hannah Norman

Enw: Hannah Norman

Cyfeiriad e-bost: Hannah.norman@mentera.cymru

Rhif ffôn symudol: 07497 368 476

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin, Abertawe a De Cymru ehangach

Arbenigedd (au): Garddwriaeth; Arallgyfeirio; Datblygu busnes; 

Cyfnewid gwybodaeth 

 

  • Ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn rheoli prosiectau a digwyddiadau, newidiodd Hannah i weithio yn y sector bwyd ac amaeth, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a garddwriaeth. Yn 2016 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Churchill iddi, lle treulion tri mis yn UDA yn ymchwilio i gynhyrchu bwyd trefol a chadwyni cyflenwi lleol, gan ehangu ei dealltwriaeth o ddulliau arloesol ar gyfer systemau bwyd cynaliadwy. 
  • Ar ôl dychwelyd i'r DU, cafodd Hannah brofiad ymarferol gwerthfawr fel tyfwr cynorthwyol ar fferm organig lwyddiannus wrth gwblhau Rhaglen Tyfwyr y Dyfodol Cymdeithas y Pridd, a gynlluniwyd i gynorthwyo newydd-ddyfodiaid i arddwriaeth fasnachol. 
  • Fel cyn Swyddog Sector Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, bu Hannah yn cynorthwyo ffermwyr, tyfwyr a newydd-ddyfodiaid a oedd yn awyddus i sefydlu, arallgyfeirio neu ehangu mentrau ffrwythau, llysiau a pherlysiau masnachol. Fe wnaeth helpu busnesau i wella gwydnwch a phroffidioldeb wrth fabwysiadu dulliau cynhyrchu cynaliadwy yn amgylcheddol. 
  • Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau arloesi ar ffermydd drwy raglenni Ein Ffermydd a Chronfa Arbrofi Cyswllt Ffermio, gan gwmpasu pynciau gan gynnwys micro-arallgyfeirio, rhyng-gnydio, rheoli plâu integredig a thechnegau tyfu cynaliadwy. Mae hi hefyd wedi datblygu a hwyluso rhwydweithiau technegol, ymweliadau astudio, gweithdai a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, gan alluogi tyfwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd a mabwysiadu syniadau newydd yn hyderus. 
  • Mae Hannah hefyd yn rheoli sefydliad gardd gymunedol ddielw yng Nghwm Tawe, gan hyrwyddo addysg, iechyd a lles trwy weithgareddau sy'n seiliedig ar natur. 
  • Yn eiriolwr brwd dros systemau bwyd lleol, mae gan Hannah rwydweithiau cryf ar draws y sector garddwriaeth ac mae wedi gweithio'n agos gyda thyfwyr a sefydliadau'r sector cyhoeddus i greu cyfleoedd ar gyfer bwyd lleol a gynhyrchir yn gynaliadwy mewn ysgolion, ysbytai a chadwyni cyflenwi eraill y sector cyhoeddus. 
  • Fel arweinydd Agrisgôp, mae Hannah yn mwynhau dod â phobl ynghyd i edrych ar gyfleoedd, rhannu profiadau a herio ffyrdd sefydledig o feddwl. 

"Yn aml, mae'r syniadau gorau'n dod i'r amlwg pan fydd pobl â gwahanol brofiadau yn dod at ei gilydd i rannu eu heriau a'u cyfleoedd. Mae Agrisgôp yn rhoi'r amser a'r lle i aelodau feddwl yn wahanol, dysgu oddi wrth ei gilydd a throi syniadau da yn gamau gweithredu y gellir eu cyflawni." 

 

Profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol 

  • 2023 – 2026 Swyddog Sector Garddwriaeth, Cyswllt Ffermio 
  • Dros 10 mlynedd o brofiad o gynorthwyo busnesau garddwriaeth, newydd-ddyfodiaid,, arallgyfeirio, cynhyrchu organig a chadwyni cyflenwi cynaliadwy drwy Cyswllt Ffermio, Cymdeithas y Pridd, Lantra a Chanolfan Bwyd Cymru 
  • 2016 – Cymrodoriaeth Churchill (Amgylchedd): Cynhyrchu Bwyd Trefol a Chadwyni Cyflenwi Lleol 
  • Derbynnydd Grant Arloesi Eco SXSW, Austin, Texas, UDA 
  • Cwrs Byr Hydroponeg – Humble by Nature 
  • Rhaglen Tyfwyr y Dyfodol Cymdeithas y Pridd 
  • Tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) mewn Egwyddorion Garddwriaeth 
  • Hyfforddiant Hwyluso Set Dysgu Weithredol - Koreo 

I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.