
Enw: Hannah Norman
Cyfeiriad e-bost: Hannah.norman@mentera.cymru
Rhif ffôn symudol: 07497 368 476
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin, Abertawe a De Cymru ehangach
Arbenigedd (au): Garddwriaeth; Arallgyfeirio; Datblygu busnes;
Cyfnewid gwybodaeth
- Ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn rheoli prosiectau a digwyddiadau, newidiodd Hannah i weithio yn y sector bwyd ac amaeth, gan ganolbwyntio i ddechrau ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a garddwriaeth. Yn 2016 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Churchill iddi, lle treulion tri mis yn UDA yn ymchwilio i gynhyrchu bwyd trefol a chadwyni cyflenwi lleol, gan ehangu ei dealltwriaeth o ddulliau arloesol ar gyfer systemau bwyd cynaliadwy.
- Ar ôl dychwelyd i'r DU, cafodd Hannah brofiad ymarferol gwerthfawr fel tyfwr cynorthwyol ar fferm organig lwyddiannus wrth gwblhau Rhaglen Tyfwyr y Dyfodol Cymdeithas y Pridd, a gynlluniwyd i gynorthwyo newydd-ddyfodiaid i arddwriaeth fasnachol.
- Fel cyn Swyddog Sector Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, bu Hannah yn cynorthwyo ffermwyr, tyfwyr a newydd-ddyfodiaid a oedd yn awyddus i sefydlu, arallgyfeirio neu ehangu mentrau ffrwythau, llysiau a pherlysiau masnachol. Fe wnaeth helpu busnesau i wella gwydnwch a phroffidioldeb wrth fabwysiadu dulliau cynhyrchu cynaliadwy yn amgylcheddol.
- Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau arloesi ar ffermydd drwy raglenni Ein Ffermydd a Chronfa Arbrofi Cyswllt Ffermio, gan gwmpasu pynciau gan gynnwys micro-arallgyfeirio, rhyng-gnydio, rheoli plâu integredig a thechnegau tyfu cynaliadwy. Mae hi hefyd wedi datblygu a hwyluso rhwydweithiau technegol, ymweliadau astudio, gweithdai a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, gan alluogi tyfwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd a mabwysiadu syniadau newydd yn hyderus.
- Mae Hannah hefyd yn rheoli sefydliad gardd gymunedol ddielw yng Nghwm Tawe, gan hyrwyddo addysg, iechyd a lles trwy weithgareddau sy'n seiliedig ar natur.
- Yn eiriolwr brwd dros systemau bwyd lleol, mae gan Hannah rwydweithiau cryf ar draws y sector garddwriaeth ac mae wedi gweithio'n agos gyda thyfwyr a sefydliadau'r sector cyhoeddus i greu cyfleoedd ar gyfer bwyd lleol a gynhyrchir yn gynaliadwy mewn ysgolion, ysbytai a chadwyni cyflenwi eraill y sector cyhoeddus.
- Fel arweinydd Agrisgôp, mae Hannah yn mwynhau dod â phobl ynghyd i edrych ar gyfleoedd, rhannu profiadau a herio ffyrdd sefydledig o feddwl.
"Yn aml, mae'r syniadau gorau'n dod i'r amlwg pan fydd pobl â gwahanol brofiadau yn dod at ei gilydd i rannu eu heriau a'u cyfleoedd. Mae Agrisgôp yn rhoi'r amser a'r lle i aelodau feddwl yn wahanol, dysgu oddi wrth ei gilydd a throi syniadau da yn gamau gweithredu y gellir eu cyflawni."
Profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol
- 2023 – 2026 Swyddog Sector Garddwriaeth, Cyswllt Ffermio
- Dros 10 mlynedd o brofiad o gynorthwyo busnesau garddwriaeth, newydd-ddyfodiaid,, arallgyfeirio, cynhyrchu organig a chadwyni cyflenwi cynaliadwy drwy Cyswllt Ffermio, Cymdeithas y Pridd, Lantra a Chanolfan Bwyd Cymru
- 2016 – Cymrodoriaeth Churchill (Amgylchedd): Cynhyrchu Bwyd Trefol a Chadwyni Cyflenwi Lleol
- Derbynnydd Grant Arloesi Eco SXSW, Austin, Texas, UDA
- Cwrs Byr Hydroponeg – Humble by Nature
- Rhaglen Tyfwyr y Dyfodol Cymdeithas y Pridd
- Tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) mewn Egwyddorion Garddwriaeth
- Hyfforddiant Hwyluso Set Dysgu Weithredol - Koreo