BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ffion Davies

Rhydlewis, Llandysul

Ffion DaviesMae Ffion Davies yn ffermwr llaeth a phartner busnes ger Llandysul, lle mae hi a'i phartner wedi dechrau eu menter llaeth eu hunain yn ddiweddar.

Wedi'i magu ar fferm gymysg bîff, defaid a llaeth, datblygodd Ffion brofiad ffermio ymarferol ers iddi fod yn ifanc iawn, gan gymryd cyfrifoldeb am ŵyna a magu lloi. Ym mis Ebrill 2026, symudodd i ffermio llaeth, gan helpu i sefydlu system yn seiliedig ar laswellt gyda 250 o fuchod sy’n lloia yn y gwanwyn wrth gydbwyso bywyd teuluol gyda dau o blant ifanc.

Ochr yn ochr â'i rôl yn ffermio, mae Ffion yn Swyddog Cyfathrebu Digidol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan ddod â sgiliau gwerthfawr mewn cyfathrebu, marchnata a chreu cynnwys digidol. Mae'r profiad deuol hwn yn cryfhau ei dull o ddatblygu busnes ac ymgysylltu o fewn y sector amaethyddol.

Mae ei huchelgeisiau’n cynnwys ehangu’r fuches laeth, gwella cynhyrchiant y tir drwy wneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio gan ddata, ac ailadeiladu ei menter ddefaid ochr yn ochr â chynhyrchu bîff o loi llaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn meincnodi, iechyd y pridd a gwelliant parhaus.

Mae Ffion yn awyddus i gysylltu ag eraill yn y diwydiant, rhannu profiadau a datblygu datrysiadau ymarferol i gynorthwyo busnes ffermio teuluol cynaliadwy a blaengar.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.