Bargod, Morgannwg Ganol
Mae Angharad Parsons yn ffermwr da byw hunangyflogedig ac yn bartner ar Fferm Penygarreg ym Morgannwg Ganol, lle mae hi'n rheoli fferm deuluol 250 erw sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu defaid.
Nid oes gan Angharad gefndir ym myd amaeth a dechreuodd ei gyrfa yn y maes meddygol, gan hyfforddi a gweithio fel Cydymaith Meddygol gyda’r GIG. Yn 2022, gwnaeth benderfyniad a newidiodd ei bywyd i ddychwelyd i fferm ei theulu i gynorthwyo ei thaid. Yn dilyn ei farwolaeth sydyn, fe wnaeth ymgymryd â'r her o reoli'r fferm yn annibynnol, gan ddatblygu ei sgiliau'n gyflym ac adeiladu menter gynaliadwy.
Mae Angharad bellach yn rheoli diadell o tua 400 o famogiaid bridio, gan oruchwylio pob agwedd ar weithrediadau fferm gan gynnwys hwsmonaeth dda byw, rheoli tir, cydymffurfio a chynllunio ariannol. Mae ganddi ddiddordeb cryf mewn gwella effeithlonrwydd ac edrych ar gyfleoedd i arallgyfeirio, ochr yn ochr ag angerdd cynyddol dros ddulliau adfywiol o ffermio.
Wedi'i hysgogi gan awydd i feithrin gwybodaeth, rhwydweithiau a gwydnwch hirdymor, mae Angharad wedi ymrwymo i ddatblygu dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'r busnes teuluol wrth addasu i'r heriau sy'n wynebu amaethyddiaeth fodern.